Dwylo'n dal tlws

Cyfle i fentrau cymdeithasol yng Nghymru ennill yn fawr

Cyhoeddwyd : 30/01/23 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r Gwobrau Dechrau Busnes yn ôl am 2023, ac mae mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio yn y categori Dechrau Menter Gymdeithasol, a noddir gan y tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC.

CEFNDIR

Mae’r Gwobrau Dechrau Busnes yn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr Gwobrau Entrepreneuriaid Prydain Fawr a Gwobrau Dechrau Busnes Cymru, yr unig wobrau cenedlaethol a rhanbarthol ar hyn o bryd sy’n dathlu busnesau newydd yn y DU.

Eisoes wedi’u sefydlu ac yn ffynnu yng Nghymru, mae’r Gwobrau Dechrau Busnes yn cael eu hehangu nawr ledled yr holl Deyrnas Unedig. Mae’r categori Dechrau Menter Gymdeithasol yn ‘cydnabod busnesau newydd sy’n rhoi yn ôl, yn cyfoethogi cymunedau ac yn gwneud cyfraniad at gymdeithas.’

Mae enillwyr blaenorol categori Cymru yn cynnwys Swperbox, gwasanaeth cludo bocs bwyd sy’n creu, gweithgynhyrchu ac yn cludo bwyd ar hyd a lled De a Gorllewin Cymru. Gan wneud gwerthoedd cymdeithasol yn ganolog i’w model busnes, cawsant fuddsoddiad gan Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol, a gyllidwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC.

Mae enillwyr y llynedd, Prom Ally (Saesneg yn unig) yn cynnig benthyg mwy na 3,000 o ffrogiau a siwtiau prom am ddim i blant ysgol, myfyrwyr chweched dosbarth a myfyrwyr coleg. Ar ôl dod yn rhan o Gwmni Buddiannau Cymunedol, roedden nhw’n gymwys i gael grant dechrau busnes carbon sero net CGGC, a’i helpodd nhw i oroesi a ffynnu fel busnes cymdeithasol.

BETH SYDD ANGEN EI WYBOD

I fod yn gymwys i ymgeisio ar gyfer y Gwobrau Dechrau Busnes, ni allai eich busnes cymdeithasol fod wedi bod yn masnachu am fwy na tair blynedd cyn y dyddiad y byddwch chi’n cyflwyno’ch cais. Rhaid i chi fod yn gofrestredig ac yn masnachu yn y DU.

Mae’r ceisiadau yn cau ar 24 Chwefror 2023. Gellir cael rhagor o fanylion ar y broses ymgeisio ar wefan y Gwobrau Dechrau Busnes (Saesneg yn unig).

Angen ychydig o anogaeth cyn ymgeisio? Yn y fideo hwn, mae Alun Jones o Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yn egluro pam y dylech chi roi cynnig arni:

RHAGOR AM SIC

Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yn rhoi cymorth ariannol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru trwy amrywiaeth o grantiau a benthyciadau.

Maen nhw’n buddsoddi mewn mudiadau sydd eisiau cynhyrchu mwy o incwm neu ehangu amrywiaeth eu gwasanaethau, a mudiadau sydd wedi cael anhawster denu cyllid grant ar gyfer prosiectau newydd yn y gorffennol. Oes gennych chi brosiect mewn golwg ac yn credu y gallent ei gyllido? Cysylltwch â’r tîm i drafod eich syniadau a gweld a allech chi fod yn gymwys i gael cyllid.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy