30 Mai May – 7 Mehefin
Mae gerddi, bach a mawr, yn lleoedd ardderchog i bob math o blanhigion ac anifeiliaid. Eleni, mae Wythnos Natur Cymru yn cael ei neilltuo i natur yn ein gerddi – ac mae angen eich help arnom!
Rydym eisiau ichi rannu’r adegau pan fyddwch yn sylwi ar yr amrywiaeth ryfeddol o adar, planhigion brodorol, gwenyn a chwilod sy’n rhannu eich gardd. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i gael ymweliad gan ddraenog! Ac wrth gwrs, gallwch ymuno hefyd os nad oes gennych ardd drwy sylwi ar natur o’ch ffenestr.
Bydd ein cymuned o arbenigwyr wrth law drwy gydol Wythnos Natur Cymru i ateb eich cwestiynau ac i roi cynghorion ar sut i wneud eich gardd yn atyniadol i fywyd gwyllt ac i’ch helpu i gofnodi’r hyn ydych yn ei weld, i greu gwell darlun o’n cymdogion ym myd natur.
Digwyddiadau Wythnos Natur Cymru
Mae gennym wythnos lawn i’r ymylon o ddigwyddiadau rhyngweithiol ‘natur yn yr ardd’ y gallwch gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Trapio Gwyfynod Yn Fyw (Moth Trap Live), y Cwis Natur Mawr Cymreig a sesiynau holi ac ateb byw ar y cyfryngau cymdeithasol a llawer iawn mwy o ddigwyddiadau rhyngweithiol yn eich ardal leol!
Ddydd Sadwrn, 30 Mai – Ymunwch â staff LERC Cymru a chofnodwyr Cymru i ddarganfod bywyd gwyllt rhyfeddol ein gwlad yn eich gardd! Bydd pobl o bob cwr o Gymru sy’n caru natur yn cael gwahoddiad i gynnal BioBlitz yn eu gardd, i chwilio am rywogaethau cyffredin a phrin i’w cyfrannu i’n ciplun o rywogaethau ledled Cymru. Cofnodi’r holl rywogaethau y gallwch eu canfod yn eich gardd am 24 awr (hanner nos – hanner nos) er mwyn llunio cipolwg o rywogaethau cenedlaethol ar gyfer Wythnos Natur Cymru. Dilynwch yr hwyl ar Facebook a Twitter gyda #BioBlitzGerddiCymru ac anfonwch eich cofnodion drwy Ap LERC Cymru (neu lwybr cofnodi arall**)
Ddydd Llun, 1 Mehefin – Ymunwch â Liam Olds, Swyddog Cadwraeth Buglife Cymru sydd hefyd yn arbenigwr gwenyn mewn sesiwn holi ac ateb fyw am wenyn yn eich gardd i ganfod yr atebion! Os oes gennych gwestiwn, unrhyw bryder neu hyd yn oed stori i’w rhannu am y gwenyn yn eich gardd, dyma eich cyfle i’w cyflwyno i’n harbenigwr ar ddydd Llun, 1 Mehefin am 3pm – YN FYW ar Twitter @NPTWildlife
Dydd Mawrth, 2 Mehefin – Trapio Gwyfynod Yn Fyw! Ymunwch â Barry Stewart, aelod o Bartneriaethau Natur Leol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe YN FYW o’i ardd yn Abertawe, wrth iddo agor trap gwyfynod i weld pa rywogaethau a ddaliwyd dros nos. Ymunwch â ni ar Facebook am 9:30am ar nos Fawrth, 2 Mehefin i weld pa rywogaethau sydd wedi glanio yn y trap yn ystod y nos. Efallai y bydd hyn yn eich ysbrydoli i ddechrau trapio gwyfynod eich hun! Bydd y ddolen Facebook yn cael ei hanfon ar dudalen Bywyd Gwyllt Castell-nedd Port Talbot https://www.facebook.com/NPTWildlife/
Ddydd Mercher, 3 Mehefin – Ymunwch â Swyddog Prosiect ‘Cysylltu’r Dreigiau’ yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid am sesiwn holi ac ateb fyw am ymlusgiaid ac amffibiaid yn eich gardd. Os oes gennych gwestiwn, unrhyw bryder neu hyd yn oed stori i’w rhannu am ‘ddreigiau’ eich gardd chi, dyma eich cyfle i’w cyflwyno i’n harbenigwr ar ddydd Mercher, 3 Mehefin am 6pm – YN FYW ar Twitter @NPTWildlife
Ddydd Lau, 4 Mehefin – Rhowch eich gwybodaeth am astudiaethau natur ar brawf yn ystod Wythnos Natur Cymru ac ymunwch â CCALl Cymru mewn rhith-gwis am 7 y.h. ddydd Iau 4 Mehefin. O ffeithiau am bysgod i fanylion planhigion, faint ydych chi’n ei wybod am ein bywyd gwyllt gwych yng Nghymru?
Ddydd Gwener, 5 Mehefin – I gyd-fynd â Diwrnod Amgylchedd y Byd, rydym ni’n canolbwyntio ar yr holl wirfoddoli amgylcheddol sy’n digwydd bob dydd. Ymunwch â ni i ddiolch am yr holl waith gwirfoddol, bach a mawr, sy’n gwneud y blaned yn lle gwell. Yn ystod y dydd, rhannwch straeon am wirfoddolwyr sydd wedi cefnogi’r amgylchedd.
Ddydd Sadwrn, 6 Mehefin – Diwrnod llesiant natur. Beth am ymlacio a dadflino – yn naturiol. Cymerwch bum munud i eistedd yn yr ardd neu wrth y ffenest a gwylio golygfeydd natur. Ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol? Mae ymarfer corff neu ymestyn ysgafn yn yr awyr agored yn donig ardderchog i’r corff a’r meddwl. Rydym yn mwynhau clywed gennych – rhannwch eich gwaith celf, ysgrifennu neu brofiadau cyffredinol. #nature4wellbeing
Ddydd Sul, 7 Mehefin – Diwnod Gwylio Adar o’ch Cadair Freichiau. Dewch allan o’r tŷ gyda’ch paned a’ch llyfr adnabod adar i weld faint o rywogaethau sydd o gwmpas. Allwch chi ganfod hyd at 10 rhywogaeth? Peidiwch ag anwybyddu’r adar sy’n hedfan yn uchel fel Gwenoliaid Duon, Gwenoliaid y Bondo a’r Bwncathod. #armchairbirding
Mae’r digwyddiadau hyn wedi cael eu trefnu gan y Prosiect Partneriaeth Natur Leol (LNP) Cymru. Mae menter LNP Cymru yn brosiect 3 blynedd a gydlynir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n weithredol hyd at fis Ebrill 2022. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys pob awdurdod lleol a pharc cenedlaethol yng Nghymru, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru, CGGC a’r Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol (CCALl). Nod prosiect yw adeiladu rhwydwaith adfer natur ar draws Cymru, gan ymgysylltu â phobl a chymunedau, busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau mewn camau ymarferol a chynlluniau strategol ar gyfer Cymru iach, wydn a chyfoethog o ran ei natur.