Golygfa dros ysgwydd dyn yn ffilmio rhywun yn traddodi sgwrs yn nigwyddiad gofod3 CGGC

Cyfle gwaith newydd yn CGGC

Cyhoeddwyd : 02/03/23 | Categorïau: Newyddion |

Rydyn ni’n chwilio am unigolyn brwdfrydig a chreadigol i ymuno â’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig fel ‘Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol’ CGGC.

Rydyn ni’n chwilio am siaradwr Cymraeg i ymuno ag CGGC fel Swyddog Cymorth Cyfathrebiadau Digidol. Mae hwn yn gyfle rhagorol i rywun sydd eisiau dechrau ar yrfa mewn cyfathrebu a marchnata. Mae hefyd yn gyfle i unrhyw un â sgiliau pobl cryf i wneud defnydd da ohonynt drwy helpu CGGC i gyflawni ei ddiben – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

PAM GWEITHIO YN CGGC?

Mae CGGC (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) yn cynnig nifer o fuddion fel cynllun gweithio’n hyblyg, pensiwn ar 9% o’ch cyflog a mynediad at raglen cymorth i gyflogeion.

Mae CGGC yn buddsoddi yn ei gyflogeion a’u datblygiad. Rydyn ni’n Gyflogwr Cyflog Byw, sy’n ymrwymedig i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, ac rydyn ni hefyd wedi ennill yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl.

Rhagor o wybodaeth am weithio i CGGC.

SWYDDOG CYMORTH CYFATHREBIADAU DIGIDOL

Cymraeg yn hanfodol

35 awr yr wythnos

£24,473 yn cynyddu i £26,072 pro rata y flwyddyn

Bydd CGGC yn cyfrannu 9% o’i gyflog blynyddol at ei gynllun pensiwn cymeradwy.

Lleoliad:

Mae gan CGGC bolisi gweithio hybrid a hyblyg ar waith, sy’n golygu y gallwch chi weithio yn ein swyddfeydd neu o bell (gan gynnwys gartref). Rydyn ni’n fudiad Cymru gyfan gyda swyddfeydd yn Aberystwyth, Caerdydd a’r Rhyl. Bydd angen mynychu rhai digwyddiadau a threfniadau gwaith penodol yn ein swyddfeydd a lleoliadau eraill, ond y mwyafrif o’r amser, gallwch chi ddewis ble rydych chi’n gweithio fel y bo’n briodol i’ch ffordd o fyw.

Ynglŷn â’r rôl:

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn creadigol a brwdfrydig weithio gyda’n tîm cyfathrebu a marchnata dynamig. Byddwch chi’n cael profiad gwerthfawr o weithio gyda’n harbenigwyr yn y diwydiant ar ymgyrchoedd amlgyfrwng at ddibenion a chynulleidfaoedd amrywiol.

Mae’r rôl yn ddelfrydol i rywun sy’n dymuno dechrau ar yrfa yn y maes cyfathrebu a marchnata. Os oes gennych chi sgiliau pobl ac ochr greadigol, mae’r swydd hon yn rhoi digonedd o gyfleoedd i chi ehangu a datblygu eich sgiliau, wrth ddylunio cyfathrebiadau diddorol i gefnogi a hyrwyddo’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Bydd rhai o’ch prif ddyletswyddau yn cynnwys:

  • Datblygu, gweithredu a gwerthuso cyfathrebiadau ar gyfer platfformau amrywiol, gan gynnwys ein gwefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol ac e-gylchlythyrau
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol gwahanol i ganfod cyfleoedd i greu cynnwys diddorol sy’n hyrwyddo gwaith y sector gwirfoddol
  • Cyfrannu at y gwaith o gynllunio cyfathrebiadau a marchnata er mwyn sicrhau mai’r un yw ein llais yn Gymraeg a Saesneg

Byddwch chi hefyd yn gweithio’n agos gyda thimau eraill CGGC a chyda phartneriaid allanol, lle byddwch chi’n cael cyfle i weld yr holl brosiectau gwahanol a chyffrous rydyn ni’n gysylltiedig â nhw. Byddwch chi’n clywed o lygad y ffynnon (ac yn helpu i adrodd) straeon hollol ysbrydoledig elusennau a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.

Mae’r swydd hon yn amrywiol iawn, ac nid yw’r un dau ddiwrnod yr un fath. Mae hon yn rôl hynod o werth chweil ar gyfer unigolyn trefnus ac uchel ei gymhelliant sy’n hoffi her ac eisiau defnyddio’i sgiliau i wneud cyfraniad positif at y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Darllenwch y swydd-ddisgrifiad lawn.

SUT I YMGEISIO

I ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn cais isod:

Gwybodaeth ddefnyddiol

Hysbysiad preifatrwydd

Ffurflen gais

Dyddiad cau: 20 Mawrth 2023, 10am

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy