Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig prawf ddarllen am ddim o dan 1000 o eiriau i fudiadau gwirfoddol yn ystod y flwyddyn.
DIWEDDARIAD: Yn dilyn derbyniad eithriadol o’r cynnig cyfieithu am ddim, o 1 Mehefin byddant yn newid yn ôl i gynnig eu gwasanaeth prawf ddarllen gwych – 1000 o eiriau dros y flwyddyn am ddim.
Yn ystod y cyfnod yma, rydym yn ymwybodol fod nifer o sefydliadau trydydd sector yn gorfod ymateb yn gyflym i sefyllfa sy’n newid o hyd. Rydym yn gwybod fod nifer ohonoch yn awyddus i gyfathrebu’n ddwyieithog, ond angen ychydig o gymorth i baratoi negeseuon yn Gymraeg ar fyr rybudd.
Mae tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig cynllun prawf ddarllen i’r sector gwirfoddol. Gall y tîm prawf ddarllen hyd at 1000 o eiriau i chi am ddim yn ystod y flwyddyn. Anfonwch y gwaith at hybu@comisiynyddygymraeg.cymru.
Gallant hefyd gynnig cyngor a chymorth pellach i chi o safbwynt cynllunio’ch defnydd o’r Gymraeg yn ôl yr arfer – mae’r tîm yn dal i weithio o adre.
Cysylltwch â nhw hefyd i ddysgu am gymorth ychwanegol sydd ar gael, er enghraifft cynllun newydd Helo Blod gan Lywodraeth Cymru, fydd yn cynnig cyfieithu a gwirio testun am ddim.
Mwy o wybodaeth am Helo Blod
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyfieithu a chynghori Cymraeg cyflym a chyfeillgar i helpu busnesau a mudiadau gwirfoddol i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Ac mae ar gael am ddim.
Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg y mis i’ch busnes, yn rhad ac am ddim. Gallant hefyd wirio 1000 gair o Gymraeg am ddim rydych chi wedi rhoi cynnig ar ysgrifennu eich hun y flwyddyn.
Yn olaf, gall Helo Blod gynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu i ti ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fudiad – hyd at 10 ymholiad fesul mis calendr.