Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (AGMs) Rhithiol a Hybrid – canllaw ICSA i elusennau

Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (AGMs) Rhithiol a Hybrid – canllaw ICSA i elusennau

Cyhoeddwyd : 26/03/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae ICSA, y Sefydliad Llywodraethiant Siartredig, wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gynnal AGMs rhithiol a hybrid.

Nod y canllawiau yw darparu arweiniad ‘sut i’ ymarferol i elusennau sydd ar fin cynnal eu cyfarfod cyffredinol blynyddol (AGM) rhithiol neu hybrid cyntaf yn sgil y pandemig a’r mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n deillio ohono.

Gallwch chi lawrlwytho’r canllawiau ar wefan ICSA (ar gael yn Saesneg yn unig).

Bwriedir y canllaw hwn yn bennaf ar gyfer elusennau sydd wedi’u strwythuro fel cwmnïau elusennol cyfyngedig trwy warant a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIOs). Mae’r canllaw yn cyfeirio at yr hyblygrwydd a ddarperir gan Ddeddf Ansolfedd Corfforaethol 2020 (CIGA) ac yn tynnu ar brofiad mudiadau sydd eisoes wedi cynnal AGMs rhithiol neu hybrid.

Yn y canllaw hwn mae cyfarfod rhithiol yn golygu cyfarfod lle nad oes yr un o’r cyfranogwyr yn yr un man yn gorfforol ond eu bod mewn cysylltiad â’i gilydd trwy fideogynadledda; golyga cyfarfod hybrid gyfarfod lle mae rhai ond nid pob un o’r cyfranogwyr yn gorfforol bresennol yn yr un man ond mae pawb mewn cysylltiad â’i gilydd trwy fideogynadledda.

Mae’r canllaw yn ymdrin â phynciau allweddol, gan gynnwys:

  • Y rheidrwydd i gynnal AGM
  • Busnes AGM
  • Cynllunio AGM
  • Beth sy’n digwydd os yw elusen wedi rhoi hysbysiad o AGM arferol, ond bod cyfyngiadau symud lleol diweddarach yn rhwystro’r cyfarfod hwnnw rhag cael ei gynnal?
  • Dewis y fformat cywir – rhithiol neu hybrid
  • Trefniadau pleidleisio

A llawer mwy.

Gellir lawrlwytho’r canllaw yn rhad ac am ddim, ond bydd angen i chi gofrestru i greu cyfrif ar wefan ICSA. Mae’r canllaw ar gael yn Saesneg yn unig.

Mae CGGC a’n partneriaid yn y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs) wedi derbyn nifer o gwestiynau ynglŷn â sut i gynnal AGMs yn ystod y pandemig a gobeithiwn y bydd y canllaw hwn o ddefnydd i ymddiriedolwyr sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch eu AGMs.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag AGMs, gweler ein heitem newyddion gysylltiedig ar COVID-19 – allwn ni gynnal AGM ein helusen?

Gall mudiadau lleol gysylltu â’u cyngor gweithredol sirol am gymorth gyda gweithio trwy eu hopsiynau a dod i benderfyniad. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y CVCs yma Cefnogi Trydydd Sector Cymru .

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 03/03/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Hyrwyddo cyfiawnder rhywedd a’r hinsawdd yn Uganda

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/02/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwirfoddolwyr: pontio’r bwlch mewn gofal dementia

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Buddsoddi mewn atal yn ‘cadw pobl yn iach ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’

Darllen mwy