Bydd ein CCB a’n darlith flynyddol yn cael eu cynnal ar-lein ym mis Tachwedd, gan gynnwys siaradwyr gwadd gwych, cyfleoedd rhwydweithio, a’r ddarlith eleni a gyflwynwyd gan Danny Sriskandarajah, Prif Swyddog Gweithredol Oxfam.
Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) a’n darlith flynyddol yn cael eu cynnal ar-lein eleni ar ddydd Iau 19 Tachwedd 2020 rhwng 12 pm a 3 pm.
Mae’r CCB a’r ddarlith flynyddol yn rhad ac am ddim i’w mynychu ond maent ar gyfer aelodau CGGC yn unig (rhagor o wybodaeth isod).
BETH I’W DDISGWYL
CCB
Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 12 pm ac 1 pm a bydd yn cynnwys uchafbwyntiau adroddiad blynyddol CGGC, yr adroddiad ariannol, dau siaradwr gwadd rhagorol o Beiciau Gwaed a Cyfrwng, uchafbwyntiau ein hymgyrch #NidGwobrauElusennauCymru ym mis Hydref a mwy.
Noder, er bod croeso cynnes i nifer o fynychwyr o’r un mudiad, dim ond un ohonynt gaiff bleidleisio ar benderfyniadau ar ran yr aelod-fudiad.
Rhwydweithio
Yn dilyn yr CCB, bydd cyfleoedd i ymuno â rhith amserau cinio rhwydweithio rhwng 1 pm a 2 pm. Bydd gennym nifer o sesiynau rhwydweithio amser cinio, 20 munud o hyd, ar wahanol bynciau, a bydd y rhain yn cael eu cynnal ar y cyd gan rai o’n haelodau staff ac ymddiriedolwyr arbenigol.
Mae croeso i’r holl aelodau alw i mewn i unrhyw un o’r sesiynau hyn a chael sgwrs anffurfiol neu ofyn unrhyw gwestiynau y gallai fod ganddynt. Y themâu fydd: grantiau, adferiad gwyrdd, Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, cyllid Ewropeaidd, cyllid ac ymgysylltu ieuenctid. Bydd y dolenni i’r ystafelloedd ar wahân hyn wedi’u cynnwys yn yr e-bost ymuno.
Darlith flynyddol 2020
Yn olaf, byddwn ni’n dod â’r prynhawn i ben gyda’n darlith flynyddol gyffrous rhwng 2 pm a 3 pm. Eleni, mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyhoeddi y bydd Danny Sriskandarajah, Prif Swyddog Gweithredol Oxfam, yn cyflwyno’r ddarlith ‘Sut gall elusen fyd-eang gyflenwi’n lleol’.
Ar ôl y ddarlith, bydd sesiwn holi ac ateb agored gyda’r rheini sy’n bresennol. Nid oes rhaid i chi ymuno â ni am y tair awr gyfan, ond byddai’n hyfryd pe baech chi’n gallu cymryd rhan lle bynnag y bo’n bosibl.
ARCHEBWCH EICH LLE
Os ydych yn aelod o CGGC gallwch archebu eich lle ar-lein yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Amber bookings@wcva.cymru.
Os na allwch ddod i’r AGM a hoffech benodi dirprwy i fynychu ar eich rhan, llenwch y ffurflen ddirprwy yma a’i dychwelyd erbyn dydd Gwener 13 Tachwedd 2020.
AELODAETH CGGC
Digwyddiadau i aelodau yn unig yw’r CCB a’r ddarlith flynyddol. Noder, os byddwch chi’n cofrestru heb eich bod yn aelod, ni fyddwch yn derbyn e-bost ymuno ar y diwrnod.
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i mudiadau sydd ag incwm blynyddol o £50,000 neu lai, ac fel arall mae’n dechrau ar £30 y flwyddyn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod, ewch i’n tudalen aelodaeth. Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich mudiad yn aelod o CGGC ar hyn o bryd, cysylltwch â ni yn bookings@wcva.cymru.