Bydd ein AGM yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ym mis Tachwedd, gyda dau siaradwr gwadd gwych a chyfle i’n haelodau rwydweithio dros de prynhawn.
Mae’n bleser gan CGGC gyhoeddi y bydd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (AGM) yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb eleni ar ddydd Iau 17 Tachwedd 2022 am 1.45 pm yn swyddfa CGGC, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF.
Mae’r AGM a’r te prynhawn yn rhad ac am ddim i’w fynychu ond ar gyfer aelodau CGGC yn unig (rhagor o wybodaeth isod).
BETH I’W DDISGWYL
AGM
Bydd ein AGM yn cael ei gynnal rhwng 1.45 pm a 3.15 pm a bydd yn cynnwys uchafbwyntiau adroddiad blynyddol CGGC a’n hadroddiad ariannol diwedd blwyddyn 2021/22, ynghyd â dau siaradwr gwadd rhagorol, Heddyr Gregory, Swyddog y Wasg, Shelter Cymru a Momena Ali, Sylfaenydd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig.
Bydd y pum ymgeisydd llwyddiannus yn etholiad/pleidlais ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cael eu cyhoeddi yn ein AGM.
Noder, er bod croeso cynnes i nifer o fynychwyr o’r un mudiad, dim ond un ohonynt gaiff bleidleisio ar benderfyniadau ar ran yr aelod-fudiad.
Rhwydweithio
Yn union ar ôl yr AGM, bydd cyfle i ymuno â ni am de prynhawn rhwng 3.15 pm a 5 pm.
ARCHEBWCH EICH LLE
Os ydych yn aelod o CGGC gallwch archebu eich lle ar-lein yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Kate Gobir kgobir@wcva.cymru.
Os na allwch ddod i’r AGM a hoffech benodi dirprwy i ddod ar eich rhan, llenwch y ffurflen ddirprwy hon a’i dychwelyd erbyn 10 am ddydd Mercher 16 Tachwedd 2022.
AELODAETH CGGC
Digwyddiadau i aelodau yn unig yw’r AGM a’r ddarlith flynyddol. Noder, os byddwch chi’n cofrestru heb fod yn aelod, ni fyddwch yn derbyn e-bost ymuno ar y diwrnod.
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i fudiadau ag incwm blynyddol o £50,000 neu lai, ac fel arall yn dechrau ar £32 y flwyddyn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn aelod, ewch i’n tudalen aelodaeth. Os nad ydych chi’n siŵr a yw eich mudiad yn aelod o CGGC ar hyn o bryd, cysylltwch â ni yn aelodaeth@wcva.cymru.