Mae Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd y DU wedi’i lansio heddiw, sy’n gyfle i ailosod y cydberthnasau rhwng y llywodraeth a chymdeithas sifil.
Mae Cyfamod Cymdeithas Sifil newydd y DU wedi’i lansio’n swyddogol nawr. Mae hyn yn dilyn galwad gan y Prif Weinidog y llynedd am ‘ailosodiad sylfaenol’ mewn sut mae cymdeithas sifil a’r llywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd.
Roedd hwn yn ymrwymiad a adleisiwyd ar y pryd gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Lindsay Cordery-Bruce, a *groesawodd y cyfle i adeiladu partneriaeth fwy agored, cydweithredol a pharchus ledled holl wledydd y DU. Mae CGGC wedi croesawu’r cyfle i helpu i lunio’r sgwrs hon o’r cychwyn cyntaf a sicrhau bod pobl yn parchu cyd-destun Cymru ac yn dysgu ohono.
Y CYFAMOD A CHYMRU
I ni yng Nghymru, mae’r Cyfamod yn gam ymlaen mewn sut rydym yn ymhél â Llywodraeth y DU ar faterion nad ydynt wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Nid yw’r Cyfamod yn disodli nac yn sathru ar unrhyw un o’r fframweithiau cryf sydd eisoes ar waith o fewn Cymru.
Ein Cynllun Trydydd Sector ein hunain, sydd wedi’i rwymo mewn cyfraith ac o dan gydberchnogaeth Llywodraeth Cymru a’r sector, yw’r safon aur o hyd. Mae’n parhau i lywio’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar draws pob maes polisi sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, o iechyd ac addysg i weithredu ar yr hinsawdd a gwirfoddoli.
Mae’r bartneriaeth honno wedi’i chynnwys yn y strwythurau llywodraethu yma, gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a thrwy ymgysylltiad rheolaidd drwy bortffolios gweinidogion. Rhaid i’r Cyfamod ategu’r strwythurau hyn. Mae hefyd yn cynnig cyfle i rannau eraill o Lywodraeth y DU ddysgu o sut mae gweithio mewn partneriaeth eisoes wedi’i ymwreiddio yng Nghymru trwy Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).
Ond gwyddom fod llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru hefyd yn gweithio ar draws meysydd nad ydynt wedi’u datganoli. O nawdd cymdeithasol i gyfiawnder, mewnfudiad i bolisi tramor, hawliau dynol i hawliau cyflogaeth, caiff effaith penderfyniadau Llywodraeth y DU ei theimlo gan gymunedau ym mhob rhan o’r wlad. Dyna pam ei bod hi’n hen bryd i ni gael fframwaith mwy eglur ar gyfer ymgysylltu â Llywodraeth y DU, a pham mae’r Cyfamod newydd hwn yn bwysig.
SAFON GYDWEITHIO NEWYDD
Mae’r Cyfamod yn nodi egwyddorion a rennir ar gyfer cael cydweithrediad, parch o’r ddwy ochr ac ymddiriedaeth rhwng cymdeithas sifil a’r llywodraeth. Mae’n cadarnhau annibyniaeth y sector a’n hawl i godi ein llais, i ymgyrchu a dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae hefyd yn ymrwymo adrannau o Lywodraeth y DU i wella’r ffordd y maen nhw’n ymhél â’r sector, gan gynnwys y ffordd y maen nhw’n cyllido, yn comisiynu ac yn cynnwys mudiadau gwirfoddol wrth lunio polisïau. Wrth gwrs, y prawf fydd gweld a fydd yr egwyddorion hyn yn cael eu cymhwyso’n gyson ar draws adrannau ac yn ymarferol.
Mae hyn o bwys i’n gwaith gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Swyddfa Gartref ac eraill. Yn bwysicach oll efallai, mae’n gosod y sylfeini ar gyfer dull newydd o ymgysylltu â Thrysorlys EF a fydd yn cydnabod rôl cymdeithas sifil mewn darparu gwasanaethau hanfodol ynghyd â llunio meddylfryd economaidd a blaenoriaethau cyllido. Mae hyn yn rhywbeth y mae CGGC wedi galw amdano ers tro byd, ac rydym yn obeithiol y bydd yr ymrwymiad hwn i bartneriaeth yn arwain at newid go iawn.
Bydd hefyd yn bwysig i’n gwaith parhaus gyda Swyddfa Cymru a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, wrth i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ddod i ben ym Mawrth 2026. Mae’r Cyfamod yn rhoi fframwaith newydd i ni ymhél â Llywodraeth y DU ar sut bydd y Gronfa Twf Lleol (i ddod) yn cael ei chynllunio a’i chyflwyno yng Nghymru. Byddwn yn defnyddio hwn i bledio’r achos dros ddull buddsoddi rhanbarthol mwy tryloyw, atebol a chydweithredol sy’n cynnwys llais cymunedau Cymru a’r mudiadau gwirfoddol sy’n eu cefnogi.
Wrth gwrs, ni all dogfen yn ei hun newid cydberthnasau. Beth sy’n digwydd nesaf sy’n cyfri. Y Cyfamod yw’r cam cyntaf. Rhaid i hyn gael ei ddilyn gan weithrediad, atebolrwydd a symud diwylliannol. Mae taith hir i ailadeiladu’r ymddiriedaeth a’r didwylledd sydd wedi bod ar goll fynych. Ond mae’r Cyfamod newydd hwn yn rhoi lle i ni ddechrau.
Yn hyn i gyd, mae’n hanfodol bod y Cyfamod yn ategu a pharchu’r trefniadau sydd wedi’u datganoli, ac rydym wedi canolbwyntio ar hyn wrth ei ddatblygu. Yng Nghymru, mae gennym waith partneriaeth aeddfed eisoes ar waith. Gall y Cyfamod ychwanegu gwerth trwy sicrhau bod yr adrannau hynny o Lywodraeth y DU sy’n ymdrin â materion nad ydynt wedi’u datganoli i Gymru yn cadw at yr un safonau hynny o barch, tryloywder a chydweithrediad pan fyddant yn gweithio gyda chymdeithas sifil Cymru.
SICRHAU EFFAITH I GYMRU
Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid ledled y DU i sicrhau bod y Cyfamod hwn yn cyflawni ei addewidion. Byddwn hefyd yn sicrhau bod llais sector gwirfoddol Cymru yn cael ei glywed wrth i’r cam gweithredu ddechrau. Os caiff hwn yn ei wneud yn dda, gallai osod y sylfeini ar gyfer polisïau gwell, cydberthnasau cyllido gwell ac, yn y pen draw, canlyniadau gwell i’r bobl a’r cymunedau rydym i gyd yn eu gwasanaethu.
*Saesneg yn unig