People applauding

Cydnabod hyrwyddwyr gwirfoddoli

Cyhoeddwyd : 18/07/22 | Categorïau: Newyddion |

Mae enwebiadau yn cael eu derbyn nawr ar gyfer Gwobrau Hyrwyddwyr Helplu a byddwn ni’n gofyn am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru eleni cyn hir.

Fel arfer, nid yw pobl yn gwirfoddoli am y gydnabyddiaeth, ond mae’n dda cydnabod yn gyhoeddus y cyfraniadau arbennig y maen nhw’n eu gwneud o bryd i’w gilydd. Mae adrodd a chlywed hanesion gwirfoddolwyr yn cefnogi’r gwirfoddolwyr o dan sylw ac yn ysbrydoliaeth i’r gweddill ohonom ni.

GWOBRAU HYRWYDDWYR HELPLU

Unwaith eto, mae Helplu yn chwilio am enwebiadau ar gyfer ei Wobrau Hyrwyddwyr Helplu 2022 (Saesneg yn unig). Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 31 Awst am 10 am a bydd yr enillwyr yn cael eu gwahodd i seremoni yn Llundain ym mis Tachwedd. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth, cofrestru ac yna cyflwyno cais ar-lein yma (Saesneg yn unig).

Mae hwn yn gyfle i roi sbotolau ar y rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynorthwyo cleifion, teuluoedd, gofalwyr, staff y GIG a mudiadau cymunedol. Bydd straeon yr holl enwebeion yn cael eu rhannu ar wal enwogrwydd Helplu (Saesneg yn unig).

Darllenwch stori Louis (Saesneg yn unig), a gafodd gymeradwyaeth uchel am ei enwebiad y flwyddyn ddiwethaf. Gwnaeth Louis, myfyriwr ym Mhrifysgol De Cymru, gerdded 238,000 o gamau anhygoel fel Rhedwr yn Ysbyty Llandochau, yn cludo eitemau hanfodol yn ôl ac ymlaen o berthnasau a ffrindiau i’r adran cleifion mewnol yn ystod pandemig Covid-19. Gwnaeth hefyd ddefnyddio ei sgiliau TG i helpu staff i ail-ffurfweddu 250 o gyfrifiaduron llechen Lenovo pan gyflwynwyd wifi newydd yn yr ysbyty.

Cafodd tri enwebiad arall o fwrdd iechyd Caerdydd a’r Fro gymeradwyaeth uchel: cydnabu gwirfoddolwyr Canolfannau Brechu Torfol (Saesneg yn unig) am ‘waith partneriaeth a systemau mewn gwirfoddoli’, tîm Rhedwyr mewn ysbyty (Saesneg yn unig) fel ‘tîm gwirfoddoli rhagorol y flwyddyn’ ac aelod staff (Saesneg yn unig) fel ‘hyrwyddwr staff rhagorol ar gyfer gwirfoddolwyr’.

GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU

Bydd enwebiadau yn cael eu derbyn ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru ym mis Awst, mewn digwyddiad lansio yn yr Eisteddfod. Bydd digwyddiad dathlu yn cael ei gynnal ar gyfer yr enillwyr yn ystod Wythnos Elusennau Cymru ym mis Tachwedd.

Bydd y categorïau gwobrwyo yn cynnwys rhai i wirfoddolwyr yn benodol. Mae’r rhain yn agored i wirfoddolwyr o unrhyw sector (nid o elusennau yn unig!)

Cadwch lygad am ragor o fanylion…

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Newyddion

Datganiad ar yr ymosodiadau diweddar ar Gyngor Ffoaduriaid Cymru dros gyfryngau cymdeithasol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Newyddion

Swydd Wag – Rheolwr Rhaglen Forol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

CLlLC yn amlygu pwysau ariannu ‘anghynaladwy’

Darllen mwy