Mae CGGC ac elusen Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu cynllun dychwelyd ernes ar boteli Llywodraeth Cymru a’r ffaith ei fod yn cynnwys opsiwn cyfleus i roi’r ernes i elusen.
Rydyn ni wedi cyhoeddi cyd-ddatganiad gyda Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu cynhwysiad opsiwn ‘cyflym a chyfleus i roi’r ernes i elusennau’ yng nghynllun dychwelyd ernes ar boteli i Gymru Llywodraeth Cymru.
Bydd y cynllun dychwelyd ernes, sy’n bwriadu cael ei lansio ym mis Hydref 2027, yn golygu y bydd angen i ddefnyddwyr dalu ychydig bach yn fwy am gynwysyddion yfed plastig a metel untro (ernes). Pan fydd y cynhwysydd yn cael ei ddychwelyd i’w bwynt dychwelyd penodedig, bydd yr ernes yn cael ei dychwelyd. Nawr, mae wedi’i gadarnhau y bydd opsiwn i roi’r ernes a ddychwelir i elusen cyn gynted ag y bydd y cynllun yn dechrau.
Gobeithir y bydd y cynllun yn gwella cynaliadwyedd ac ailgylchu yng Nghymru ac yn cryfhau’r economi gylchol. Bydd yr opsiwn rhoi hefyd yn cyflwyno ffynhonnell newydd mawr ei hangen o gyllid i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Cyd-ddatganiad ar y Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diod yng Nghymru: CGGC ac elusen Cadwch Gymru’n Daclus
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) ac elusen Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu Rheoliadau Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer Cynwysyddion Diod (Cymru) 2026. Mae hwn yn gam mawr tuag at leihau sbwriel, cryfhau economi gylchol Cymru a chysylltu gweithredu amgylcheddol â budd cymunedol.
Rydym yn falch bod y cynigion yn cyd-fynd â’n hargymhelliad i gynnwys opsiwn cyflym a chyfleus i roi ernes i elusennau. Yn ogystal â chyflwyno ffynhonnell newydd mawr ei hangen o gyllid i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae’n mwyhau effeithiau positif y cynllun ac yn ymwreiddio rhoi ym mywydau bob dydd pobl. Mae’n allweddol bod yr opsiwn hwn yn cael ei gynnwys o’r cychwyn cyntaf, oherwydd dengys enghreifftiau rhyngwladol bod ei ychwanegu at y cynllun yn ddiweddarach yn llawer anoddach ac yn cael canlyniadau cymysg.
Er bod y cynllun yn darparu sylfaen gadarn, hoffem ei weld yn cael ei gryfhau trwy gyflymu’r ailddefnyddio a chyflwyno amserlen fwy uchelgeisiol ar gyfer cynwysyddion gwydr yn y dyfodol.
Rhaid canolbwyntio nawr ar sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn modd amserol ac effeithiol. Bydd canllawiau clir, llwybrau rhoi hygyrch a chymorth ymarferol yn hanfodol i gyflawni’r budd amgylcheddol a chymdeithasol mwyaf posibl.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda phartneriaid ar hyd a lled Cymru i sicrhau bod y cynllun yn creu amgylcheddau glanach a chymunedau cryfach.
BETH SY’N DIGWYDD NESAF?
Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith. Galwn ar Lywodraeth Cymru i wneud ei gorau glas i sicrhau bod gwydr yn cael ei gynnwys yn llawn yn y cynllun cyn gynted a bo modd.
Gallwch ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Dychwelyd Ernes a’r rheoliad drafft llawn cyn i’r Senedd graffu arno. Gallwch hefyd ddarllen ymateb CGGC i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynllun.