Mae Cynnal Cymru yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim i fudiadau gwirfoddol sy’n ymdrin â sut mae’r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau y mae’n ei wynebu, a sut gall pob un ohonom ni helpu natur i ffynnu.
Mae Cynnal Cymru – Sustain Wales yn falch iawn o gynnig 120 lle, am ddim, ar eu cwrs Eco-llythrennedd Trefol Nabod Natur i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol neu fudiad gwirfoddol yn yr ardaloedd ar hyd prif linell Rheilffordd y Great Western – Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd.
Rhaglen ddysgu ar-lein yw Nabod Natur – Nature Wise sy’n eich addysgu ar sut mae’r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau y mae’n ei wynebu a sut gall pob un ohonom ni helpu natur i ffynnu, hyd yn oed mewn mannau trefol. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am sut mae natur yn gweithio ac am y bygythiadau y mae’n ei hwynebu. Byddant hefyd yn datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer eu hunain neu eu grwpiau, gan ddefnyddio eu gwybodaeth er budd bywyd gwyllt a chynefinoedd.
BETH I’W DDISGWYL
Bydd deg cwrs yn cael eu cynnal rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023, lle bydd y cyfranogwyr yn ymuno â dwy sesiwn ar-lein, gydag ymrwymiad amser o bum awr ar y mwyaf. Bydd y rheini sy’n cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn derbyn tystysgrif.
Mae cyn-fynychwyr Nabod Natur o bob lliw a llun wedi dweud bod y cwrs wedi rhoi’r cymhelliad iddynt gynnwys camau adfer natur yn eu bywydau bob dydd. Mae hefyd wedi rhoi’r hyder iddynt rannu mewnwelediadau a gwybodaeth am yr argyfwng natur gyda’r rheini o’u cwmpas.
Eglurodd gwirfoddolwr o Lwybr Natur yr Hendy sut oedd y cwrs wedi ‘taflu goleuni ar yr angen i frwydro dros fyd natur a chadwraeth, ac wedi rhoi’r awydd iddi wneud hyn’, ac roedd Llysgennad Newid Hinsawdd o Sefydliad y Merched yn ‘llawn cyffro i rannu’r holl wybodaeth wych hon gyda’r aelodau, er mwyn eu hannog i fod yn fwy ystyriol o fyd natur.’
Gellir cynnig y lleoedd hyn am ddim diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol Rheilffordd y Great Western (Saesneg yn unig).
DYDDIADAU SYDD AR ÔL
- Dydd Llun 6 Chwefror 2023, 1.30pm – 4pm A Dydd Mercher 8 Chwefror 2023, 1.30pm – 4pm
- Dydd Mawrth 14 Chwefror 2023, 10am – 12.30pm A Dydd Iau 16 Chwefror 2023, 10am – 12.30pm
- Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023 10am – 12.30pm A Dydd Iau 2 Mawrth 2023, 10am – 12.30pm
- Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023, 10am – 12.30pm A Dydd Iau 16 Mawrth 2023, 10am – 12.30pm
- Dydd Llun 20 Mawrth 2023, 1.30pm – 4pm A Dydd Mercher 22 Mawrth 2023, 1.30pm – 4pm
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cynnal Cymru (tudalen Saesneg yn unig).