Margaret a Richard yn gwenu ac yn cael sgwrs gyda menyw arall

‘Cwpwl grymus’ sector gwirfoddol Cymru yn ymddeol

Cyhoeddwyd : 11/04/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwnaeth y cwpwl ysbrydoledig, Margaret Jervis a Richard Morgan, gyhoeddi eu hymddeoliad yn ddiweddar ar ôl ymroi eu bywydau i gefnogi pobl, cymunedau ac achosion yng Nghymru.

Mae’r gŵr a gwraig, Margaret Jervis a Richard Morgan wedi ymddeol ar ôl rhyw bum degawd yn gweithio yn y sector gwirfoddol yng Nghymru. Gwnaeth y cwpwl *gyhoeddi eu hymddeoliad o Blant y Cymoedd yn ddiweddar, sef elusen datblygu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf y gwnaethant helpu i’w adeiladu ‘o’r dechrau i’r diwedd’.

Maen nhw’n ymddeol gan adael etifeddiaeth barhaol i’r cymunedau, yr unigolion a’r mudiadau y maen nhw wedi’u cefnogi.

CEFNOGI GWEITHREDU LLEOL

Gwnaeth Margaret a Richard osod y sylfeini ar gyfer Plant y Cymoedd ym 1977 gyda Phrosiect Islawr Penygraig a oedd yn ceisio helpu pobl ifanc a oedd mewn perygl o fynd i drwbl difrifol.

Gwnaethant wedyn oruchwylio ei hehangiad i feysydd fel chwarae, gwaith ieuenctid, y celfyddydau, llesiant cymunedol a dulliau therapiwtig. Gyda’u cymorth nhw, tyfodd Plant y Cymoedd i fod yr elusen effeithiol y mae hi heddiw, yn newid bywydau miloedd a, thrwy ddeall ac ymateb i anghenion lleol, yn grymuso unigolion, teuluoedd a chymunedau.

BOD YN GEFNOGWR O’R SECTOR GWIRFODDOL

Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Margaret am ei chefnogaeth o’r sector ac am ei gwaith i CGGC. Ymunodd Margaret â’n bwrdd ym 1995 lle y bu’n ymddiriedolwr ac yna, o 2005, yn gyd Is-gadeirydd tan iddi gamu i lawr yn 2014.

Gwnaeth Margaret chwarae rhan allweddol mewn nifer o fentrau CGGC, gan gynnwys ein gwaith buddsoddiad cymdeithasol fel Cyfarwyddwr Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru rhwng 2010 a 2015.

CYFRANIAD AMHRISIADWY

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr CGGC, Matthew Brown:

‘Mae Margaret a Richard yn gwpwl grymus go iawn, ac rydyn ni’n ddiolchgar dros ben am yr hyn y maen nhw wedi’i wneud i gefnogi’r sector gwirfoddol dros lawer iawn o flynyddoedd – mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy!

‘Dymunwn ymddeoliad hapus ac iach iddyn nhw, mae’n gwbl haeddiannol.’

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/01/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Ffordd syml i gyflogwyr roi yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Grymuso cymunedau drwy Wirfoddoli mewn Mannau Gwyrdd

Darllen mwy