Mae naw prosiect wedi cael cyllid yn rownd ddiweddaraf cynllun grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Mae’r prosiectau a ariennir yn gweithio gyda phartneriaid o naw gwlad yn Affrica i gyflawni amrywiaeth eang o gynlluniau.
Dyfarnwyd cyllid i’r sefydliadau canlynol yn ein cylch diweddaraf:
- Ymddiriedolaeth SaltPeter
- Cyllid Cymunedol Assadaqaat
- Ysgolion Solar Giakonda
- Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (Cyswllt Masanga Bangor)
- Interburns
- Ymddiriedolaeth Gymunedol Clwb Pêl Droed Wrecsam
- ChallengeAid
- Love Zimbabwe
- CAENDON
PARTNERIAETH SY’N FUDDIOL I’R DDWY OCHR
Bydd y prosiectau’n hwyluso cyfnewidiadau diwylliannol a dysgu ar y cyd rhwng Cymru ac Affrica. Mae gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr o Gymru yn cael y cyfle i ddysgu am safbwyntiau ac arferion amrywiol ac i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth y gallant eu defnyddio er budd pobl yng Nghymru.
Mae’r cyllid Cymru ac Affrica yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
ARIANNWYD YN FLAENOROL GAN Y CYNLLUN
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Rhaglen Gwaredu Malaria Zanzibar (ZAMEP) ers dros ddeng mlynedd, gan ddatblygu datrysiadau arloesol i wella ymyraethau i reoli malaria.
Mae gan Gymru rai o bobl fwyaf blaenllaw’r byd mewn technoleg creu lluniau drwy loeren a dronau, y gellir ei defnyddio’n effeithiol mewn rheoli malaria. Gall dronau ddod o hyd i byllau dŵr lle y mae mosgitos sy’n cario malaria yn magu mewn modd effeithlon a chywir. Unwaith y mae’r ffynonellau dŵr hyn wedi’u mapio, gellir eu targedu ar gyfer triniaeth, lleihau nifer y mosgitos a’r achosion o falaria.
Gwnaeth y cyllid Cymru ac Affrica cefnogi cyflwyniad rhaglen hyfforddi ar y System Wybodaeth Ddaearyddol yn Zanzibar er mwyn adeiladu capasiti ar gyfer prosesu a dadansoddi data daearyddol digidol. Gwnaeth y cyllid alluogi pobl academaidd o Brifysgol Aberystwyth i deithio i Zanzibar; rhoddodd hyn gyfle amhrisiadwy i gryfhau’r cysylltiadau â ZAMEP ac i gyd-ddatblygu protocol ehangach ar ddefnyddio dronau i reoli malaria yn Zanzibar.
CAEL Y NEWYDDION DIWEDDARAF
Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid CGGC, ymunwch â rhestr bostio cyllid CGGC.