Pedwar o bobl yn sefyll y tu allan i dafarn Ty'n Llan tra bod un person yn gwefru cerbyd trydan.

Cronfa Ynni Glân – grant cyntaf yn cael ei ddyfarnu yng ngogledd Cymru

Cyhoeddwyd : 14/08/26 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r buddsoddiad cyntaf o’r ‘Gronfa Ynni Glân’ wedi’i ddyfarnu i dafarn o dan berchnogaeth cymuned yng Ngwynedd, dyma stori Tŷ’n Llan.

Mae Tŷ’n Llan yn dafarn gymunedol siriol ym mhentref Llandwrog, Gwynedd,  sy’n cael ei rhedeg a’i chefnogi gan Fenter Tŷ’n Llan, Cymdeithas Budd Cymunedol a grëwyd i gymryd perchnogaeth drosti. Y bennod ddiweddaraf yn hanes y dafarn yw ei llwyddiant diweddar yn cael cyllid gan y Gronfa Ynni Glân.

STORI TŶ’N LLAN

Pan gaeodd Tŷ’n Llan yn 2017, gadawyd trigolion yr ardal heb unman i gwrdd a chymdeithasu. Dair blynedd yn ddiweddarach, prynwyd y dafarn gan y gymuned a’i hadfer gyda chefnogaeth ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru. Ers ailagor, mae wedi dod yn ganolfan leol boblogaidd ac yn fan cyfarfod pwysig i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Yn awyddus i adeiladu ar ei nod o fod yn fwy cynaliadwy ac amgylcheddol gyfrifol, gwnaeth Menter Tŷ’n Llan gais am gymorth drwy’r Gronfa Ynni Glân. Roedd yn wych gweld y mudiad yn dod y cyntaf i dderbyn buddsoddiad o’r cynllun.

Mae’r dafarn yn bwriadu defnyddio’r cyllid i osod pwmp gwres o’r ddaear, paneli solar ffotofoltäig ar y llawr, a phwyntiau gwefru i gerbydau trydanol.

Dywedodd Wyn Roberts, Cadeirydd Menter Tŷ’n Llan: ‘Bydd y buddsoddiad hwn yn cryfhau Tŷ’n Llan fel canolfan hyfyw sy’n eiddo i’r gymuned, wrth i ni ail-fuddsoddi’r arbedion i mewn i swyddi, gwirfoddoli a gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd.’

YMAGWEDD AT GYLLID SY’N YSTYRIOL O’R BLANED

Gwenith Elias, Rheolwr Buddsoddi mewn Ynni Glân, CGGC: ‘Drwy Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn CGGC, mae wedi bod yn braf cael cyllido Tŷ’n Llan ers iddi gael ei phrynu, felly mae’n bleser go iawn i allu eu helpu ar y cam nesaf hwn yn eu datblygiad.

‘Mae’r manteision economaidd ac amgylcheddol y mae’r cynllun hwn yn eu cyflwyno yn sylweddol ac yn cyd-fynd yn fawr â’n hymagwedd ystyriol o’r blaned at gyllido mudiadau sector gwirfoddol yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at ei gweld yn mynd o nerth i nerth.’

Dywedodd y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Ynys Môn: ‘Mae’n wych gweld y gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau ledled Gogledd Cymru. Trwy fuddsoddi mewn prosiectau ynni glân a datgarboneiddio, gall mudiadau leihau costau, gwella effeithlonrwydd a chyflwyno cyfleoedd newydd, gan ein helpu ni i greu dyfodol gwyrddach i’r ardal.’

BETH YW’R GRONFA YNNI GLÂN?

Er mwyn cefnogi busnesau a mudiadau gwirfoddol i ddatblygu mentrau ynni glân lleol, lansiodd Uchelgais Gogledd Cymru Gronfa Ynni Glân gwerth £24.6 miliwn yn 2025. Datblygwyd y cynllun mewn partneriaeth â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru sy’n arwain yr is-gronfa ar gyfer y sector gwirfoddol.

Mae’r is-gronfa wedi’i chynllunio ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned i gynnig cymorth i fynd i’r afael â chostau ynni cynyddol mewn modd cynaliadwy. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag Ynni Cymunedol Cymru i roi £5 miliwn o gyllid i’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

RHAGOR O WYBODAETH

Os yw eich mudiad yn chwilio am fuddsoddiad ynni glân, mae’r gronfa ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau. Gallwch ddarllen mwy ar ein tudalen Cronfa Ynni Glân.

Gallwch hefyd gysylltu â’n tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru am drafodaeth ar 0300 111 0124 neu e-bostiwch sic@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/09/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth

Wythnos Cofio Elusen 2026

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/07/26
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl am 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/07/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa newydd i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru

Darllen mwy