Mynychwyr yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn eistedd o amgylch byrddau mewn sesiwn ryngweithiol yn nigwyddiad gofod3 CGGC

Cronfa newydd i Gymru: cynnydd, cyfleoedd a chamau nesaf

Cyhoeddwyd : 13/07/26 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae gwaith ar droed i sefydlu cronfa genedlaethol newydd hirdymor sydd wedi’i chynllunio i greu budd parhaol i fudiadau gwirfoddol ledled Cymru, a gallwch chi helpu i lunio ei dyfodol.

CREU ASED HIRDYMOR I GYMRU

Ar ddiwedd y llynedd, gwnaethom gyhoeddi cynlluniau i sefydlu cronfa newydd i Gymru o dan y teitl dros dro, ‘Cronfa’r Dyfodol’, sydd wedi’i dechrau gyda £4 miliwn o gronfeydd CGGC ei hun. Mae’r gronfa yn cael ei datblygu fel ased cenedlaethol cynaliadwy sydd wedi’i gynllunio i gynyddu dros amser trwy enillion buddsoddi a chyfraniadau ychwanegol.

Mae’r uchelgais yn un syml ond arwyddocaol: creu ffynhonnell barhaol o gefnogaeth i’r mudiadau gwirfoddol sy’n cryfhau cymunedau, gan ymateb i heriau sy’n dod i’r amlwg a chyfoethogi bywydau ledled Cymru.

YR HER

Mae mudiadau gwirfoddol yn darparu gwerth eithriadol bob dydd. Maen nhw’n cefnogi pobl trwy argyfwng a newid, yn cryfhau cymunedau, yn amddiffyn diwylliant ac iaith ac yn cyrraedd pobl a lleoedd na all eraill eu cyrraedd. Ond mae llawer o fudiadau yn gweithredu o fewn tirwedd gyllido hynod gystadleuol sy’n frith o gyfleoedd cyllido tymor byr, ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i gynllunio, buddsoddi ac adeiladu gwydnwch hirdymor.

Mae’r gronfa newydd yn ymateb strategol i’r her honno. Mae’n cael ei sefydlu fel mudiad elusennol annibynnol o fewn grŵp CGGC, a bydd yn cynnig sefydlogrwydd hirdymor, yn denu buddsoddiad newydd i Gymru ac yn helpu i sicrhau dyfodol cryfach i’r sector gwirfoddol.

SYMUD UCHELGAIS I WEITHREDU

Yn dilyn cymeradwyaeth cynllun busnes y gronfa, mae gwaith ar droed nawr i sefydlu ymagwedd y gronfa at lywodraethu, hunaniaeth a chodi arian.

Mae nifer o gyfleoedd allweddol yn fyw nawr wrth i ni adeiladu’r sylfeini i lansio a thyfu’r gronfa yn ystod y blynyddoedd nesaf…

CHWILIO AM YMDDIRIEDOLWYR

Rydym ni’n recriwtio ymddiriedolwyr ar hyn o bryd i helpu i lywio cyfeiriad y gronfa yn y dyfodol. Rydym ni eisiau i’r bwrdd sefydlol chwarae rôl hanfodol mewn llunio’r mudiad elusennol, gan sicrhau llywodraethu cryf a goruchwylio datblygiad ased cenedlaethol a all fod o fudd i Gymru am genedlaethau i ddod.

Mae CGGC yn partneru â Nurole, yr arbenigwr chwilio lefel bwrdd blaenllaw, i ddod o hyd i Aelodau Bwrdd Annibynnol cyntaf ar gyfer y Gronfa newydd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais yma. I drefnu sgwrs anffurfiol neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â joshua.dernie@nurole.com.

LLUNIO HUNANIAETH Y GRONFA

Rydym hefyd yn chwilio am Ymgynghorydd Strategaeth Brand a Chyfathrebu i helpu i ddatblygu hunaniaeth a naratif y gronfa a’i hymagwedd at gyfathrebu.

Bydd y gwaith hwn yn sefydlu sut mae’r gronfa yn cyflwyno ei hun i bartneriaid, cefnogwyr a’r cyhoedd ehangach, gan helpu i fagu hyder, eglurder a momentwm o ran ei phwrpas a’i huchelgeisiau.

Rhagor o wybodaeth am y rôl Ymgynghorydd Strategaeth Brand a Chyfathrebu.

DENU BUDDSODDIAD

Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Strategaeth Codi Arian ac Ymgysylltu i helpu i ddatblygu dull y gronfa o ddenu buddsoddiad dyngarol, corfforaethol a phartneriaid.

Bydd strategaeth lwyddiannus yn helpu i greu llwybrau newydd ar gyfer buddsoddi yn sector gwirfoddol Cymru ac yn cefnogi cynaliadwyedd a thwf hirdymor y gronfa.

Darganfyddwch fwy am y cyfle i Ymgynghorydd Strategaeth Codi Arian ac Ymgysylltu.

HELPWCH NI I LEDAENU’R GAIR

Wrth i ni lunio’r gronfa, rydym ni’n awyddus i glywed gan bobl a all helpu i wireddu’r weledigaeth hon.

Os wyddoch chi am unigolion, ymgynghorwyr, asiantaethau neu arweinwyr sector a all fod â diddordeb mewn helpu i lunio’r gronfa newydd, rhannwch fanylion y cyfleoedd presennol ar draws eich rhwydweithiau os gwelwch yn dda.

CADWCH EICH LLYGAID AR AGOR

Mae’r gronfa newydd yn fuddsoddiad pwysig yn nyfodol sector gwirfoddol Cymru, ac mae llawer mwy i ddod yn ystod y misoedd nesaf.

Byddwn ni’n parhau i rannu diweddariadau wrth gyrraedd cerrig milltir allweddol, gan gynnwys penodiadau llywodraethu, datblygiad y brand a chyfleoedd a fydd yn codi i gymryd rhan.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr a chadwch lygad ar ein gwefan am y newyddion a’r cyfleoedd diweddaraf.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 14/08/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa Ynni Glân – grant cyntaf yn cael ei ddyfarnu yng ngogledd Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/07/26
Categorïau: Cyllid, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl am 2026!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/07/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cronfa newydd i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru

Darllen mwy