Bydd cronfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd newydd ei lansio yn cefnogi mudiadau gwirfoddol ledled Cymru i ddatblygu a chyflwyno dulliau arloesol a arweinir gan y gymuned o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) wedi lansio Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol, a weinyddir gan CGGC, i gryfhau gallu Cymru i atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo drwy weithredu seiliedig ar dystiolaeth a arweinir gan y gymuned. Mae’r gronfa yn cydnabod y rôl hanfodol y mae mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyrraedd cymunedau, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a helpu pobl i ffynnu.
Mae’r rhaglen yn rhan o ddull iechyd cyhoeddus newydd o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n cyfrannu at niwed a chynhyrchu dysgu a fydd yn helpu i lunio polisi ac arferion yn y dyfodol.
YNGLŶN Â’R CYNLLUN GRANT
Nod y cynllun Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol yw cefnogi mudiadau a all helpu i:
- Brofi a datblygu dulliau effeithiol o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
- Cryfhau capasiti cymunedol, sector a system.
- Mynd i’r afael â sbardunau sylfaenol niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
- Adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal yng Nghymru.
- Ymwreiddio profiad bywyd ac egwyddorion iechyd cyhoeddus Cymru drwy gydol gweithgareddau atal.
Mae’r gronfa yn annog prosiectau sy’n canolbwyntio ar atal a arweinir gan y gymuned ac sydd wedi’u gwreiddio yng nghyd-destun Cymru, gan gynnwys gweithgareddau sy’n lleihau anghydraddoldebau, yn cryfhau gwydnwch cymunedol ac sy’n cefnogi’r rheini mewn perygl mwyaf o brofi niwed sy’n gysylltiedig â gamblo.
BETH SYDD AR GAEL
Gall mudiadau wneud cais am grantiau o hyd at £75,000 y flwyddyn am hyd at ddwy flynedd. Nid oes angen cyllid cyfatebol, a gall prosiectau gael hyd at 100% o’r costau cymwys.
Gallai cyllid gefnogi:
- Ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gymunedol a mentrau addysg.
- Gwaith atal wedi’i dargedu gyda grwpiau risg uwch neu grwpiau heb eu gwasanaethu’n ddigonol.
- Gweithgareddau allgymorth cymunedol, gweithredu cymdeithasol a meithrin gwydnwch.
- Cefnogaeth i deuluoedd a phobl eraill sy’n cael eu heffeithio gan gamblo rhywun arall.
- Meithrin gallu’r sector gwirfoddol, partneriaethau a rhwydweithiau.
- Dulliau creadigol, digidol ac arloesol o atal.
Rhaid i bob prosiect a gyllidir gael ei gyflawni yng Nghymru, dilyn ymagwedd sy’n canolbwyntio ar atal a bod yn annibynnol o gyllid neu ddylanwad y diwydiant gamblo.
SESIWN WYBODAETH
Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a CGGC yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar 12 Awst 2026 i roi trosolwg o’r gronfa ac ateb cwestiynau gan ddarpar ymgeiswyr.
Rhagor o wybodaeth a chofrestru.
SUT I WNEUD CAIS
Gellir gwneud ceisiadau trwy MAP, Porth Ceisiadau Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld y cyfleoedd cyllido presennol, ewch i map.wcva.cymru.
Cyn gwneud cais, caiff mudiadau eu hannog i ddarllen y canllawiau llawn i ymgeiswyr.
Darllenwch ganllawiau Niwed Gamblo – Grant y Sector Gwirfoddol.
ANGEN HELP?
Am gwestiynau am y broses grant a cheisiadau, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC: grantiauicc@wcva.cymru.
Mae’r gronfa newydd hon yn cynnig cyfle pwysig i sector gwirfoddol Cymru helpu i lunio a chyflawni dull cryfach a mwy seiliedig ar dystiolaeth o atal niwed sy’n gysylltiedig â gamblo a chefnogi lles cymunedol ledled Cymru.