Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi newidiadau i’w prif gynllun ariannu yn dilyn ymgynghori helaeth â chymunedau.
CYLLID AR GYFER CYMUNEDAU
Bydd rhaglen ariannu Pawb a’i Le yn buddsoddi hyd at £20 miliwn y flwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Yn dilyn lansiad ein strategaeth newydd, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, mae’r Gronfa wedi diweddaru ei chynnig ariannu i gefnogi cymunedau yng Nghymru. Mae Pawb a’i Le bellach yn gobeithio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod drwy gael ei llywio gan bedair nod newydd y Gronfa, sy’n cefnogi cymunedau i:
- ddod ynghyd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau iachach
Bydd grantiau o hyd at £500,000 ar gael. Bydd gofyn i grwpiau sy’n ymgeisio ddangos sut maen nhw wedi cynnwys y gymuned, ac wedi adeiladau ar sgiliau, profiadau a chryfderau pobl a dangos sut y maen nhw’n llenwi bwlch.
Bydd gofyn i brosiectau hefyd ystyried effaith amgylcheddol eu gweithgareddau, ac mae mwy o fanylion ar gael ar eu gwefan.
NEWID Y GÊM YNG NGHYMRU
Un prosiect sydd eisoes yn canolbwyntio ar iechyd, yr amgylchedd a phobl ifanc yw prosiect Newid y Gêm ym Mhowys. Mae’r prosiect yn defnyddio £304,240 dros dair blynedd, er mwyn cefnogi pobl ifanc sy’n cael anawsterau ymgysylltu ag agweddau o addysg draddodiadol.
Trwy’r prosiect maent yn meithrin sgiliau a chymwysterau, trwy weithgareddau ymarferol sy’n cynnwys sgiliau cefn gwlad, trin ceffylau, cadwraeth, mecaneg, gwaith coed, gwirfoddoli’n ddigidol, garddio a gofal anifeiliaid.
Mae eleni’n nodi deg mlynedd ar hugain ers y tynnwyd peli’r Loteri Genedlaethol gyntaf ym 1994, a diolch i’r rhai sy’n chwarae’r gemau a chodi £30 miliwn i achosion da bob wythnos, mae dros biliwn wedi cael ei ddyfarnu i gymunedau ledled Cymru drwy 23,096 o grantiau yn ystod y cyfnod hwn.
Yn y bum mlynedd ddiwethaf yn unig, mae dros £117 miliwn wedi ei ddosbarthu drwy Pawb a’i Le i gymunedau ledled Cymru.
DARGANFOD MWY
Anogir grwpiau sydd â syniadau am ariannu i gysylltu i drafod eu syniad ar 0300 12307335 neu e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
Am ragor o wybodaeth am yr holl ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding