Mae cylch newydd o gyllid Cynhwysiant Gweithredol yn cael ei lansio i helpu mudiadau yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws – gyda phroses ymgeisio symlach a byrrach.
Mae pandemig COVID-19 a’r camau cyfyngu symudiadau sydd wedi’u cymryd i fynd i’r afael ag ef wedi effeithio ar lawer o gyfranogwyr y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF). Mae’r rhain wedi golygu bod yn rhaid i fudiadau addasu’r ffordd y maen nhw’n gwneud eu gweithgareddau bob dydd er mwyn cefnogi eu cyfranogwyr a’r gymuned ehangach.
Mae CGGC wedi cytuno â WEFO y bydd cylch byr, syml o gyllid AIF yn cael ei gynnal i fudiadau sydd ar y rhestr buddiolwyr cymeradwy yn barod, i gefnogi cynhwysiant cymdeithasol a gwella rhagolygon cyflogadwyedd. Bydd y cyllid yn cynorthwyo’r camau sydd wedi’u cymryd i liniaru’r argyfwng (nad ydynt wedi’u cyllido eisoes gan ffynonellau eraill) ac yn cefnogi gweithgareddau a fydd yn cynyddu’r adferiad pan fydd y cyfnod o argyfwng wedi dod i ben.
Bydd y gronfa’n cefnogi prosiectau chwe mis o hyd sydd â chyfanswm cost o £25,000 ar y mwyaf, gyda grantiau o 80%. Bydd ceisiadau’n cael eu gwneud drwy MAP, porth ymgeisio amlbwrpas CGGC, a’n nod yw cael prosiectau ar waith o fewn 4-6 wythnos i gyflwyno’r cais. Os nad ydych chi’n gwybod eich mewngofnodi MAP yna cysylltwch: map@wcva.cymru.
Yn ystod yr adeg hon, rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel a bod pawb yn teimlo’u bod yn cael eu cefnogi. Mae’r rhain yn amgylchiadau eithriadol, ac rydyn ni eisiau eich sicrhau chi y bydd mesurau a thargedau priodol yn cael eu cytuno: er enghraifft, i ddechrau, byddwn dim ond yn gosod targedau ar gyfer nifer y cyfranogwyr sy’n cymryd rhan ac sy’n cyflawni ‘canlyniadau cadarnhaol’. Rydyn ni’n sylweddoli y bydd casglu tystiolaeth o gymhwysedd yn anodd o dan y cyfyngiadau symud – byddwn ni’n hyblyg ac yn eich helpu chi i gasglu’r dystiolaeth unwaith y bydd hyn yn bosibl.
Efallai y bydd rhai prosiectau’n canolbwyntio ar weithgareddau i helpu gyda gwasanaethau sy’n ymwneud â Covid-19, gan ddefnyddio cyfranogwyr i helpu i gyflawni’r rhain, e.e. helpu pobl a warchodir i gadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd, ac felly’n ychwanegu i’w sgiliau a’u cyflogadwyedd. Gallai eraill ganolbwyntio ar wasanaethau sy’n cefnogi eu grwpiau cyfranogwyr yn uniongyrchol, e.e. drwy ddarparu cymorth digidol a thros y ffôn, gweithgareddau ar-lein ac ati.
Mae’n parhau i fod yn gyllid Ewropeaidd, ond gyda phrosesau symlach a byrrach, a phroses gymeradwyo mwy rhyngweithiol: byddwn ni’n cadw’r ffurflenni a’r amserau asesu’n fyr, a dibynnu ar siarad â chi i weithio drwy unrhyw fanylion sydd eu hangen i ategu’r gwaith hwn.