two women discuss options at work

Cronfa benthyciadau newydd i adfer o COVID-19 yn cefnogi elusennau a mentrau cymdeithasol y DU

Cyhoeddwyd : 24/11/21 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Ar agor nawr, mae’r Gronfa Benthyciadau Adferiad yn gynllun newydd gan ‘Social Investment Business’ a’r buddsoddwr sefydlol, mudiad ‘Fusion21 Foundation’ i helpu elusennau a mentrau cymdeithasol y DU yn yr ‘adferiad ar ôl COVID’.

*Diweddarwyd 24 Tachwedd: Dyddiad cau wedi’i ymestyn i ddydd Gwener 20 Mai 2022*

Mae’r Gronfa Benthyciadau Adferiad, a lansiwyd yn ddiweddar, ar gael ar hyn o bryd i fudiadau gwirfoddol yn y DU sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19 ac angen cyllid i’w helpu i ddod drwyddi, adfer a thyfu.

Mae’r gronfa yn cynnig benthyciadau rhwng £100 mil ac £1.5 miliwn* i fudiadau cymwys, a’r ceisiadau yn cael eu hadolygu ar sail y cyntaf i’r felin. Y dyddiad cau i wneud cais yw hanner nos, dydd Gwener 20 Mai 2022.

YNGLŶN Â’R GRONFA BENTHYCIADAU ADFERIAD

Sefydlwyd y Gronfa Benthyciadau Adferiad gan ‘Social Investment Business’ (SIB) i wneud cynllun gwarant cyfredol gan y Llywodraeth, y Cynllun Benthyciadau Adferiad, yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol.

Bydd y gronfa yn benthyg i fudiadau sy’n gwella bywydau pobl, neu’r amgylchedd y maen nhw’n byw ynddo, ledled y DU. Bydd pob diben am gyllid yn cael ei ystyried, gan gynnwys ail-gyllido dyled sydd eisoes yn bodoli ar delerau mwy amyneddgar.

I elusennau a mentrau cymdeithasol cymwys, mae’r gronfa yn cynnig:

  • Benthyciadau gwerth £100,000-£1.5 miliwn. (Bydd *mudiadau a arweinir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru a’r Alban yn gallu gwneud cais am fenthyciadau o £50,000 a mwy)
  • Cyfnod benthyciad rhwng un a chwe blynedd, heb gosb am ad-dalu’n gynnar
  • Gwyliau ad-dalu cyfalaf o hyd at flwyddyn, gyda thaliadau rheolaidd ar ôl hynny
  • Ffi llog sefydlog o 7.9% y flwyddyn, gyda ffi threfnu o 2.5% i 3% – yn dibynnu ar faint y benthyciad

SIB A PHARTNERIAID

Mae’r cynllun newydd hwn yn cael ei redeg gan Social Investment Business (Saesneg yn unig), elusen sy’n cynnig cyllid i greu cymunedau tecach a gwella bywydau pobl. Mae’r Gronfa Benthyciadau Adferiad yn cynnwys buddsoddiad cychwynnol gan SIB, a Fusion21 Foundation yn ymrwymo ei gyfalaf ei hun ochr yn ochr â hwn.

Yn ogystal, bydd SIB yn gweithio gyda phartneriaid buddsoddi cymdeithasol i gyflenwi’r gronfa: Big Issue InvestCharity Bank, Key FundResonanceSocial Investment Scotland a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Gallai partneriaid cyflenwi eraill gael eu hychwanegu yn y dyfodol.

SUT I WNEUD CAIS

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd llawn, manylion y cynnyrch a chwestiynau cyffredin, ewch i: https://www.sibgroup.org.uk/recovery-loan-fund (Saesneg yn unig).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/09/24 | Categorïau: Cyllid |

Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy