Grŵp o bobl yn sefyll mewn amgylchedd gwyrdd yn dal gwastraff / ailgylchu

Cronfa allweddol ar gyfer gweithredu cymunedol ar yr hinsawdd mewn perygl

Cyhoeddwyd : 06/02/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu |

Rydyn ni wedi ysgrifennu at Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i amlygu ein pryderon sylweddol ynghylch y penderfyniad i roi’r gorau i gyllido Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (y Cynllun).

Ar ddiwedd mis Rhagfyr, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25 ac nid oedd unrhyw ymrwymiad eglur ynddi i gyllido gweithredu ar y newid hinsawdd o dan Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS).

Er bod rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer prosiectau’r Cynllun sydd eisoes yn bodoli, nid yw’r gyllideb ddrafft yn cynnwys unrhyw ddyraniad ar gyfer prosiectau newydd o dan y cynllun.

Isod, ceir crynodeb o rai o’r pryderon ynghylch tynnu’r cyllid ar gyfer y Cynllun y gwnaethon ni eu lleisio mewn llythyr a gyfeiriwyd at y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS.

YMRWYMIAD I FYND I’R AFAEL Â’R ARGYFYNGAU HINSAWDD A NATUR

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau mawr i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae’r Cynllun yn adnodd allweddol profedig, uchel ei effaith, ar gyfer cyflawni hyn ar draws lliaws o wahanol feysydd gwaith, fel gwella bioamrywiaeth, arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a gwella mannau gwyrdd.

COLLI DULL CYFLENWI ALLWEDDOL

Mae’r Cynllun yn rhan o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) ac wedi’i gynllunio i wneud iawn i gymunedau am yr effaith negyddol y mae safleoedd tirlenwi cyfagos yn ei chael arnyn nhw. Mae gennym enghreifftiau di-ri o sut mae prosiectau sydd wedi’u cyllido gan y Cynllun wedi cael effaith bositif ar gymunedau a’r amgylchedd.

CLUSTNODI CYLLID

Cyllidir y Cynllun gan y codiad trethi, felly rydym hefyd yn poeni y bydd hwn yn cael ei amsugno’n bellach i mewn i gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru yn hytrach na chael ei glustnodi ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Heb unrhyw brosiectau newydd yn cael eu cyllido, a’r cynllun ar fin cau, bydd colli’r Cynllun yn golygu y bydd llai o adnoddau wedi’u neilltuo’n benodol ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd.

BETH YW CYNLLUN CYMUNEDAU Y DRETH GWAREDIADAU TIRLENWI?

Rhaglen cyllid grant yw Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) i helpu cymunedau yng Nghymru sy’n byw o fewn pum milltir i orsafoedd trosglwyddo gwastraff neu safleoedd tirlenwi i weithredu dros eu hamgylchedd lleol.

Rhaid i brosiectau weithredu o fewn pum milltir i orsaf trosglwyddo gwastraff neu safle tirlenwi cymwys, a chanolbwyntio ar y themâu canlynol:

  • Bioamrywiaeth – creu rhwydweithiau ecolegol gwydn er budd amrediad o gynefinoedd a rhywogaethau
  • Lleihau gwastraff ac arallgyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi– hybu ymwybyddiaeth ac arferion gorau er mwyn lleihau’r swm o wastraff a gynhyrchir
  • Gwelliannau amgylcheddol ehangach– cyflwyno budd cymunedol ehangach drwy wella ansawdd lle

Cyllidir y Cynllun gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei weinyddu gan CGGC.

MWY AR GYLLIDEB DDRAFFT 2024/25

Rydym wedi rhyddhau datganiad ar y gyllideb ddrafft a’i chanlyniadau brawychus i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae arweinwyr o’r sector gwirfoddol hefyd wedi mynegi eu ‘dicter a phryder’ mewn datganiad ar y cyd gan Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC).

Ydych chi wedi eich effeithio gan y gyllideb ddrafft hon? Os felly, cysylltwch â polisi@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy