Dyn mewn masg yn stacio silffoedd mewn banc bwyd i helpu pobl wedi'i heffeithio'n ariannol gan y pandemig.

Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol nawr ar agor

Cyhoeddwyd : 17/08/20 | Categorïau: Cyllid |

Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan CGGC yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r pandemig.

Wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau symud a phobl Cymru yn symud ymlaen, mae angen i’r cyllid ymateb i heriau newydd.

Er bod y cyfyngiadau cymdeithasol yn llacio, mae llawer o bobl mewn sefyllfaoedd o argyfwng o hyd ac angen cymorth brys. Bydd Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF) yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Gwnaeth llawer o gymunedau ddioddef yn anghymesurol; felly, mae angen cymryd camau i sicrhau adferiad teg a chyfiawn. Bydd y cyllid hefyd yn cyflwyno’r adnoddau i’r Trydydd Sector ymwreiddio arferion diogel er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.

BETH FYDD Y GRANTIAU’N CEFNOGI

Bydd grantiau’n cefnogi mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio ar raddfa gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru, a gallant fod rhwng £10,000 – £100,000. Gallwn ystyried ceisiadau y tu allan i’r amrediad hwn, ond cysylltwch â ni’n gyntaf ar vsrf@wcva.cymru fel y gallwn ni drafod.

Mae’r gronfa’n canolbwyntio’n bennaf ar gyllid refeniw; fodd bynnag, gall eich cais am gyllid gynnwys costau ar gyfer prynu cyfarpar ‘cyfalaf’ llai o faint, gan gynnwys defnyddiau traul (er enghraifft, cyfarpar diogelu personol, sgriniau ac ati).

Er mwyn ceisio am arian, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Cais Amlbwrpas WCVAs (PCA). Os ydych chi eisoes wedi cofrestru gydag PCA, gallwch fewngofnodi trwy nodi’ch defnyddiwr a’ch cyfrinair newydd ar y sgrin gartref.

Gall mudiadau gofrestru trwy ymweld â’r wefan: https://map.wcva.cymru

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hon.

BETH AM GRONFA ARGYFWYNG Y GWASANAETHAU GWIRFODDOL?

Cronfa Llywodraeth Cymru oedd y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol (VSEF) a oedd yn rhedeg o Ebrill i Awst 2020. Ei nod oedd helpu mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar y rheng flaen yn erbyn y pandemig i barhau â’u gwaith hanfodol.

Yn ystod y 15 o wythnosau roedd VSEF ar waith, dyfarnodd bron £7.5 miliwn mewn ymateb i geisiadau grant brys. Mae’r gweithgarwch a gyllidwyd gan VSEF wedi helpu’r sector i gynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ledled Cymru mewn ymateb i COVID-19, a rhagwelir y bydd yn ymgysylltu â bron 6,000 o wirfoddolwyr ac yn cynorthwyo dros 700,000 o fuddiolwyr yn y misoedd i ddod.

Mae gwaith mudiadau gwirfoddol yn ystod y pedwar mis diwethaf wedi bod yn syfrdanol ac yn amhrisiadwy, gan daflu rhaff hanfodol i gymunedau, mynd i’r afael ag ynysu a gwella cydlyniant cymunedol.

Darllenwch enghreifftiau o weithgareddau a gyllidwyd drwy VSEF yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy