Bydd y gronfa cyllid brys COVID-19 ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gau i geisiadau ganol mis Mawrth.
Mae CGGC yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF), cynllun grant ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth hanfodol yn ystod argyfwng COVID-19.
The fund is focused on reducing inequalities across society as a result of the COVID-19 pandemic. Many communities have suffered disproportionately, so actions need to take place to ensure a fair and just recovery. The funding will also provide the resources for the voluntary sector to embed safe practises to carry on delivering essential services across Wales.
Mae grantiau rhwng £10,000 a £100,000 ar gael i elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) a mudiadau nid er elw (a gyfansoddwyd) o bob math sy’n gweithio ar lefel gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn derbyn ceisiadau am brosiectau chwe mis.
Fodd bynnag, bydd y gronfa’n cau am 23:59 ar 19 Mawrth 2021. Os hoffech wneud cais cyn hynny, cysylltwch â ni ar vsrf@wcva.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 111 0124 (opsiwn 3) felly y gallwn eich tywys trwy’r broses.
‘GALLEM FOD YN AGOSAU AT YMYL DIBYN CYLLIDO’
Er bod CGGC yn falch o fod wedi gwneud ei ran mewn cael cyllid mawr ei angen allan i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae pryderon ynghylch y dyfodol.
‘Rydyn ni’n falch o weld ein henw ymhlith rhai o gyllidwyr mawr y DU,’ meddai Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CGGC. ‘Ond mae gennym ni bryderon fel sector y gallem fod yn agosáu at ymyl dibyn cyllido.
‘Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill sydd wedi cyllido ein grantiau, gan alluogi mudiadau gwirfoddol i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.
‘Fodd bynnag, rydyn ni’n poeni ynghylch ansicrwydd y cyllid yn y misoedd i ddod, felly bydden ni’n annog mudiadau’n gryf i fanteisio ar gyllid Covid-19 drwy CGGC tra ei fod ar gael.’
CYSYLLTWCH CYN GWNEUD CAIS
Mae’r tîm VSRF yn annog mudiadau sy’n dymuno gwneud cais i gysylltu i drafod eu syniadau prosiect.
Cysylltwch â’r tîm ar vsrf@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124 (opsiwn 3) i weld os yw’ch prosiect yn addas, ac i gael mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.