Mae’r Cynllun Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn ariannu prosiectau lleol mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru i ddod â phartneriaid at ei gilydd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
*Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol ar gau ar gyfer ceisiadau*
Mae’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol yn galluogi cymunedau i weithredu yn ardaloedd arfordirol Cymru i gefnogi’r gwaith o adfer natur a chynaliadwyedd.
MAE CRONFA ADEILADU CAPASITI ARFORDIROL 2025-27!
Mae Cronfa Adeiladu Capasiti Arfordirol yn parhau ar gyfer 2025-27, yn dilyn rownd lwyddiannus o brosiectau yn 2023-25.
Bydd cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy’r Partneriaethau Natur Lleol (LNPs) a chaiff prosiectau eu rhedeg mewn partneriaeth â Chydlynydd y LNP lleol.
Nod y gronfa yw meithrin gallu ar gyfer partneriaid cymunedol, gan eu helpu i gymryd camau gweithredu cynaliadwy sy’n cefnogi twf ac adferiad mewn ardaloedd morol ac arfordirol lleol. Mae’n annog cydweithio rhwng rhanddeiliaid, fel cymunedau, busnesau, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, ac yn adeiladu rhwydweithiau sy’n meithrin adferiad ac adfywiad natur mewn ardaloedd arfordirol. Rhaid i bob prosiect fodloni o leia un o amcanion Deddf Pysgodfeydd 2020.
GAIR AM Y GRONFA
Mae gan y cynllun gyllideb flynyddol o £260,000 ar gyfer prosiectau o saith mis neu fwy sy’n werth £20,000 o leiaf. Bydd cwblhau pob prosiect erbyn 31 Mawrth 2027.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynllun o 2025-27 ymlaen, gan adeiladu ar ei fuddsoddiad mewn adfer natur leol drwy’r Partneriaethau Natur Lleol.
BETH RYDYM NI’N EI ARIANNU
Dyma rai enghreifftiau o’r mathau o weithgareddau y bydd y gronfa eu cefnogi:
- Cyflawni amcanion y pysgodfeydd, fel yr amlinellir yn y dull strategol o weithredu ar gyfer pysgodfeydd
- Datblygu sgiliau, gwybodaeth a rhwydweithiau/partneriaethau i ymgysylltu â materion morol ac arfordirol
- Cynnal ymarferion cwmpasu i edrych ar leihau allyriadau carbon yn yr amgylchedd morol/arfordirol
- Cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o ecosystemau lleol a sut i’w rheoli a’u defnyddio’n gyfrifol
- Rhoi cynlluniau ailgylchu ar waith
- Cynnal ymchwil i amgylcheddau lleol a’r effaith y mae newid yn yr hinsawdd yn ei chael
- Gwella cadwyni cyflenwi bwyd môr lleol a’u cynaliadwyedd
- Meithrin hamdden a thwristiaeth gynaliadwy
- Meithrin dealltwriaeth o sut i wella ansawdd dŵr
- Datblygu pecynnau bwyd ecogyfeillgar
PROSIECTAU RYDYM WEDI ARIANNU YN FLAENOROL
Wild Elements

Anogwyd disgyblion ysgolion cynradd Ynys Môn i gysylltu â’u hamgylchedd morol lleol
Gweithiodd Wild Elements gyda Phartneriaeth Natur Leol Ynys Môn i ennyn diddordeb plant ysgol trwy gynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o amgylcheddau morol ac arfordirol, eu harwyddocâd, yr heriau a wynebir, a sut i’w helpu i’w goresgyn a chefnogi adferiad natur.
Nod y prosiect oedd cyflwyno 12 sesiwn i 12 dosbarth ysgol gynradd, gan gynnwys 288 o blant a 24 o staff addysgu. Dangoswyd bod astudiaethau tebyg blaenorol yn cael effaith sylweddol wrth annog diddordeb a gwerthfawrogiad o natur, yn ogystal â chael canlyniadau addysgol cadarnhaol.
Trwy gemau a gweithgareddau ymarferol, helpodd y prosiect i gyflwyno’r plant i amgylchedd morol bywiog Ynys Môn ac amlygu’r effaith y byddai newid hinsawdd yn ei chael arno.
Fe wnaethant hefyd ddysgu sut y gall ymddygiadau unigol effeithio ar adferiad natur a’r amgylchedd a dysgu sut i wneud newidiadau cadarnhaol a fydd o fudd i fyd natur, bywyd morol a daearol, a’r amgylchedd.
Roedd hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o swyddi a gyrfaoedd yn y sector amgylcheddol ac annog astudiaeth bellach yn y brifysgol.
Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Cyfranogwyr mewn gweithdy ym Mhorthcawl yn trafod pethau sy’n rhwystro’r gymuned rhag cefnogi’r amgylchedd lleol
Bu Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn gweithio gyda Phartneriaeth Natur Leol Ceredigion i archwilio’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar allu cymunedau arfordirol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Bu’r prosiect yn rhoi sylw i ddelio â dau rwystr allweddol:
- Cyfathrebu gwael a theimlad nad oes neb yn gwrando
- Pobl yn teimlo nad oes ganddynt yr wybodaeth na’r gallu i chwarae eu rhan mewn materion morol ac arfordirol
Daethant â gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid lleol ynghyd ym Mhorthcawl ac Aberporth, pobl na fyddent o bosib wedi ymwneud â gweithgareddau amgylcheddol lleol o’r blaen, megis ffermwyr, busnesau lleol, a swyddogion heddlu cymunedol.
Dysgodd y cyfranogwyr lawer gan ei gilydd, er enghraifft sut gallai busnesau gefnogi gweithgareddau cymunedol, a’r pwysau sy’n wynebu busnesau lleol nad yw’r gymuned o bosib yn ymwybodol ohonynt.
Roedd y prosiect yn creu lle da i bobl rwydweithio a rhannu’r gweithgareddau cynaliadwyedd a oedd yn cael eu harwain gan y gymuned, ond roeddent hefyd yn nodi bod angen cydlynu’n well a mwy o gefnogaeth ar gyfer ‘gweithredu cymunedol cynaliadwy’ yn yr ardal.
Ffilmiau Arfordir Sir y Fflint

Cyfwelwyd pysgotwr lleol yng Nghei Connah fel rhan o brosiect i godi ymwybyddiaeth o fanteision ymwneud â’r amgylchedd arfordirol lleol
Roedd perygl i’r gwaith da a wnaed gan wirfoddolwyr, mudiadau a busnesau lleol gael ei daflu i’r cysgod gan droseddau yng Nghei Connah yn Sir y Fflint. I fynd i’r afael â hyn, ceisiodd prosiect a gynhaliwyd gan Bartneriaeth Natur Leol Sir y Fflint arddangos manteision ymgysylltu ag ardaloedd arfordirol lleol drwy gynhyrchu ffilmiau sy’n cynnwys rhanddeiliaid lleol.
Roedd y prosiect yn cynnwys 40 a mwy o wirfoddolwyr, yn ogystal â pherchnogion busnesau lleol, ac roedd wedi ffilmio amrywiaeth o randdeiliaid fel cogydd lleol, pysgotwyr, yr RNLI (Sefydliad Brenhinol y Badau Achub), a dylanwadwr o’r ardal.
Roedd y bobl a gymerodd ran yn y prosiect yn rhyfeddu at y bywyd gwyllt sydd i’w gael mewn ardal sy’n cael ei hystyried yn ardal drefol. Arweiniodd y prosiect at ddarganfod madfallod ar hen safle tirlenwi, ac arweiniodd hynny at gynlluniau i greu cynefin naturiol ar gyfer y tir bridio drwy’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid.
Roedd ffilmio gyda RNLI y Fflint hefyd wedi galluogi’r mudiad i dynnu sylw at beryglon yr aber, annog pobl i’w ddefnyddio’n ddiogel, a hyrwyddo gwaith eu tîm o wirfoddolwyr.