Heddiw yw dechreuad ymgyrch cenedlaethol i gydnabod a dangos gwerthfawrogiad i’r miloedd o bobl sydd wedi rhoi o’u hamser am ddim i gynorthwyo eu cymunedau yn ystod y 12 mis diwethaf.
Bob dydd yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr, byddwn yn canolbwyntio ar wahanol agweddau ar wirfoddoli, gan roi sbotolau ar y mathau amrywiol o weithgareddau sydd wedi chwarae rhan arwyddocaol yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dydd Llun
Heddiw yw lansiad yr Wythnos Gwirfoddolwyr. Cymerwch ran drwy rannu eich negeseuon o ddiolch i wirfoddolwyr ar draws y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosGwirfoddolwyr #VolunteersWeek. Cadwch lygad hefyd ar ein negeseuon arbennig o ddiolch ar Twitter gan @WCVACymru a @VolWales.
Dydd Mawrth
Ar ddydd Mawrth, byddwn ni’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr sydd wedi darparu cymorth mewn adegau o argyfwng. Eleni, gwnaeth cannoedd o wirfoddolwyr gynorthwyo’u cymunedau ar ôl dinistr Storm Dennis. Mae miloedd o rai eraill wedi bod yn cynorthwyo eu cymdogion a’u cymunedau o bell ac agos wrth i bobl wynebu newidiadau sylweddol i’w bywydau yn sgil effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol y coronafeirws a’r cyfyngiadau ar fywyd bob dydd.
Dydd Mercher
Dydd Mercher, byddwn yn canolbwyntio ar y nifer enfawr o wirfoddolwyr ifanc sy’n dangos #PowerofYouth (Pŵer Ieuenctid) a’r gwerth y maen nhw’n eu cyflwyno i’n cymunedau. Mae gennym ni straeon a byddwn ni’n dangos rhai ffilmiau sy’n amlygu’r cyfraniadau y mae pobl ifanc wedi bod yn eu gwneud yn ystod y 12 mis diwethaf.
Dydd Iau
Er mwyn sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu clywed, bydd dydd Iau yn ddiwrnod i wirfoddolwyr rannu eu straeon, i ddweud wrthym pam wnaethant ddechrau gwirfoddoli, a pha wahaniaeth mae gwirfoddoli’n ei wneud iddyn nhw. Byddwn ni’n defnyddio’r hashnod #Ivolunteer i rannu’r straeon hyn er mwyn gweld beth sydd gan wirfoddolwyr i’w ddweud am yr Wythnos Gwirfoddolwyr.
I fynegi ein diolch am wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad, rydyn ni’n gwahodd pawb i ymuno â ni mewn #ClapforVolunteers (Clapio i wirfoddolwyr), sy’n cael ei gynnal fel rhan o’r #ClapforCarers (Clapio i ofalwyr) am 8pm ar ddydd Iau 4 Mehefin.
Dydd Gwener
Bydd dydd Gwener yr Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhannu diwrnod o ymgyrchu gyda Diwrnod Amgylchedd y Byd. Byddwn ni’n ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus a Partneriaethau Natur Lleol Cymru i gydnabod y cyfraniad y mae gwirfoddoli’n ei wneud i wella iechyd y blaned. Bydd gennym ni ffilmiau ac astudiaethau achos o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r amgylchedd a llawer o wybodaeth am ffyrdd ychwanegol y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan.
Dydd Sadwrn
Bydd y gwerthfawrogiad am wirfoddolwyr yn parhau i mewn i’r penwythnos, oherwydd ar ddydd Sadwrn, byddwn yn diolch i’r rheini sy’n gwirfoddoli drwy fentrau gwirfoddoli â chymorth cyflogwyr, a’r rheini sy’n defnyddio’u sgiliau proffesiynol i gynorthwyo eu cymunedau. Yn ystod yr argyfwng diweddar, rydyn ni wedi gweld nifer fawr o fudiadau a busnesau’n dod o hyd i ffyrdd creadigol o wneud cyfraniad. Ar y diwrnod hwn, rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni i ddweud diolch i’r cyflogwyr a’r cyflogeion sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.
Byddwn ni hefyd yn lansio ein hadnodd diweddaredig ar gyfer cyflogwyr sy’n gobeithio ymwreiddio gwirfoddoli â chymorth cyflogwr yn eu mudiadau.
Dydd Sul
I gloi, byddwn ni’n edrych yn ôl ar yr wythnos ddydd Sul, ar yr uchafbwyntiau o’r ffyrdd di-ri y mae Cymru wedi dod ynghyd i ddweud diolch i’w chenedl o wirfoddolwyr.
Gwirfoddolwyr yn cymeryd drosto
Eleni, rydyn ni wedi croesawu dau wirfoddolwr i ‘gymryd drosto’r’ ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol – cadwch lygad ar Iris ac Emma ar ein tudalennau Gwirfoddoli Cymru ar Twitter a Facebook drwy gydol yr wythnos, mae ganddyn nhw rai pethau annisgwyl ar eich cyfer.
Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â ni am yr hyn sy’n argoeli i fod yn wythnos fawr, yn llawn diolchgarwch i’r gwirfoddolwyr sy’n gwthio ein cenedl ymlaen yn barhaus.
Pecyn ymgyrchu’r Wythnos Gwirfoddolwyr
Os hoffech chi gydnabod yr wythnos gyda ni, edrychwch ar ein Pecyn ymgyrchu Wythnos Gwirfoddolwyr i gael syniadau a rhagor o adnoddau.