Grŵp o wirfoddolwyr sy'n gwenu yn sefyll gyda'i gilydd ysgwydd wrth ysgwydd

Croeso i Wythnos Gwirfoddolwyr Cymru

Cyhoeddwyd : 01/06/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Cynhelir yr Wythnos Gwirfoddolwyr ledled y DU rhwng 1-7 Mehefin. Dewch i weld beth sy’n digwydd yn ystod yr Wythnos Gwirfoddolwyr yng Nghymru’r wythnos hon.

Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr, yr achlysur yr edrychir ymlaen yn eiddgar ato, lle rydyn ni’n dathlu ac yn cydnabod gwirfoddolwyr y wlad, wedi cyrraedd. Mae CGGC a’i bartneriaid yn gyffrous i weld a chlywed y storïau di-ri am yr hyn y mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ei wneud yn ystod y 12 mis diwethaf a sut, trwy gyfraniadau o bob math, y maen nhw’n gwneud gwahaniaeth i’r cymunedau a’r cymdogaethau rydyn ni’n byw ynddyn nhw.

I ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr, mae ein Prif Weithredwr, Ruth Marks, wedi rhannu’r neges hon â gwirfoddolwyr anhygoel Cymru:

‘Mae gwirfoddoli bob amser yn gwneud gwahaniaeth – waeth a yw i unigolyn, deulu, y gymuned neu’r byd. Os oeddech chi’n gallu gwirfoddoli yn ystod y pandemig, byddwch wedi gwneud byd o wahaniaeth Os nad oeddech chi’n gallu gwirfoddoli y llynedd – byddwch chi’n cael eich croesawu’n ôl yn gynnes.

‘Diolch i bawb sy’n rhoi eu hamser a’u hegni fel gwirfoddolwr.’

BETH SY’N DIGWYDD YR WYTHNOS HON?

Bydd gwahanol thema wedi’i dynodi ar gyfer pob diwrnod yr wythnos hon, a phob un yn dilyn slogan Wythnos Gwirfoddolwyr y DU, ‘Amser Dweud Diolch’.

Ar ddydd Mawrth 1 Mehefin, byddwn ni’n dechrau trwy lansio’r Wythnos Gwirfoddolwyr – ac rydyn ni’n disgwyl gweld platfformau cyfryngau cymdeithasol yn llawn negeseuon diolch cadarnhaol i wirfoddolwyr Cymru. Defnyddiwch yr hashnod #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek i weld beth mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ei wneud.

Ar ddydd Mercher 2 Mehefin, byddwn ni’n rhoi diolch arbennig i wirfoddolwyr ifanc (pobl 25 oed ac iau) sydd wedi dangos yr hyn y mae #PwerIeuenctid wedi’i gyflawni yng Nghymru. Cadwch lygad ar agor am yr enghreifftiau gwych y bydd ein partneriaid yn eu rhannu, sy’n dangos y ffyrdd amrywiol y mae pobl ifanc wedi camu ymlaen i wneud gwahaniaeth y flwyddyn hon.

Ar ddydd Iau 3 Mehefin, byddwn ni’n cydnabod gwirfoddoli â chymorth cyflogwr a gwirfoddolwyr medrus. Gwyddom fod llawer o fusnesau wedi dod o hyd i ffyrdd o gynorthwyo eu cymunedau lleol, yn enwedig eleni, ac mae’n rhaid i ni gydnabod y gwirfoddolwyr medrus a gamodd ymlaen i gynorthwyo mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol a chyda’r gwaith o gyflwyno’r brechlyn.

Bydd ein thema benodol i Gymru ar ddydd Gwener 4 Mehefin yn rhoi’r cyfle i ni ganolbwyntio ar ‘edrych yn ôl, symud ymlaen’, gan werthfawrogi’r cyfraniadau anferthol sydd wedi’u gwneud gan wirfoddolwyr eleni a pharatoi ar gyfer y dyfodol wrth i wirfoddoli symud i gyfeiriadau newydd a chyffrous.

Mae dydd Sadwrn 5 Mehefin yn glanio ar yr un diwrnod â Diwrnod Amgylchedd y Byd ac Wythnos Natur Cymru (29 Mai – 6 Mehefin), felly byddai ond yn iawn i ni ddathlu’r gwirfoddoli sydd wedi’i wneud i gefnogi’r amgylchedd, er mwyn cyfrannu at Gymru iachach a byd iachach.

Yna, ar ddydd Sul 6 Mehefin, bydd hi’n amser i’r Cinio Mawr. Byddwn ni’n cadw llygad allan am y miloedd o giniawau y bydd gwirfoddolwyr yng Nghymru’n eu cynnal er mwyn dod ag aelodau o’u cymunedau ynghyd (yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar gyfyngiadau lleol ac os bydd y tywydd yn caniatáu).

Ac yn olaf, bydd dydd Llun 7 Mehefin yn amser i stopio a meddwl wrth i ni edrych yn ôl ar Wythnos Gwirfoddolwyr 2021.

CAEL GWYBOD MWY

Gallwch gael gwybod mwy am Wythnos Gwirfoddolwyr Cymru drwy fynd i’n tudalennau gwirfoddoli.

Os ydych chi’n awyddus i barhau â’r dathliadau, byddwch chi’n falch o glywed bod mis Mehefin yn cael ei gyhoeddi’n #MisCymuned – i gydnabod y lliaws o ymgyrchoedd â ffocws cymunedol sy’n cael eu dathlu’r mis hwn. (Dilynwch yr hashnod ar gyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth).

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/08/24
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy