Llandudno Museum Curator Dawn chats with volunteers in the museum's biodiversity garden

Croeso i Wythnos Elusennau Cymru

Cyhoeddwyd : 15/11/21 | Categorïau: Newyddion |

Yr wythnos hon, rydyn ni’n cynnal yr Wythnos Elusennau Cymru gyntaf erioed, felly beth ddylech chi ei ddisgwyl a sut gallwch chi gymryd rhan?

Cynhelir Wythnos Elusennau Cymru, sy’n cael ei lansio heddiw, rhwng 15-19 Tachwedd 2021. Mae’r wythnos yn ymwneud â dathlu’r elusennau, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfoethogi bywydau pob un ohonom ni yma yng Nghymru.

STRAEON O GYMRU

Roedden ni eisiau cymryd yr amser i ysbrydoli’r cyhoedd, a phobl sy’n gweithio mewn mudiadau gwirfoddol ledled Cymru, drwy rannu rhai o straeon rhyfeddol grwpiau nid-er-elw o bob lliw a llun yng Nghymru.

Felly cadwch eich llygaid ar agor am enghreifftiau gennym ni o rai o liaws o gyflawniadau anhygoel grwpiau yn ein sector. Rydyn ni hefyd yn gobeithio llenwi’r tonnau awyr â’n straeon wrth i ni ofyn i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru rannu fideo byr am eu gwaith gan ddefnyddio #WythnosElusennauCymru.

Cefnogir yr wythnos gan ITV Cymru Wales a fydd, yn garedig iawn, yn dangos nifer o grwpiau elusennol gwahanol ar eu rhaglen ‘Wales at 6’ drwy gydol yr wythnos, felly rhowch lonydd i’r teclyn rheoli o bell!

CAEL MWY O BOBL I GYMRYD RHAN MEWN ELUSENNAU

Drwy gydol Wythnos Elusennau Cymru, byddwn ni’n annog pobl i gefnogi eu holl elusen neu grŵp gwirfoddol yn y ffyrdd canlynol …

  1. Sôn amdanyn nhw ar gyfryngau cymdeithasol

Oes gennych chi hoff elusen sy’n agos at eich calon? Soniwch amdanyn nhw ar blatfform cyfryngau cymdeithasol o’ch dewis. Dywedwch wrthym ni pam eich bod yn eu hoffi a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru.

Mae gennym ni wahanol thema bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn ni’n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar sut mae elusennau, grwpiau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth bob dydd ledled Cymru.

  1. Rhoi

Wythnos Elusennau Cymru yw’r adeg berffaith i gyflwyno rhodd i’ch hoff elusen. Cofiwch, nid oes raid iddo fod yn rhodd ariannol – gallai fod yn fag o ddillad neu eitemau eraill i’ch siop elusen leol, neu gallech hyd yn oed roi ychydig o’ch amser drwy wirfoddoli (gweler isod).

Gallwch chi hefyd gymryd rhan yn ein her ‘Cot pwy yw’r siaced hon?’!

  1. Cofrestru i fod yn wirfoddolwr

Oes gennych chi rywfaint o amser rhydd ac yn teimlo y gallech chi ei ddefnyddio i wneud ychydig o ddaioni? Beth am gofrestru i fod yn wirfoddolwr? Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr, mae https://volunteering-wales.net/ yn lle da i ddechrau.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ein themâu ‘sôn amdanynt’ am yr wythnos, a sut i gymryd rhan yn yr her ‘Cot pwy yw’r siaced hon?’ yn ein pecyn ymgyrchu.

SUT GALL ELUSENNAU A GRWPIAU GWIRFODDOL GYMRYD RHAN?

Os ydych chi’n elusen, yn fudiad gwirfoddol neu’n grŵp cymunedol:

  1. Anfonwch luniau atom ni o’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud i’w harddangos ar oriel gwefan Wythnos Elusennau Cymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau)
  2. Rhannwch fideo byr am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru. (Gallwch weld canllawiau ‘sut i’ syml ar wefan Wythnos Elusennau Cymru)
  3. Helpwch ni i amlygu gwaith ein sector drwy rannu pecyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru gyda’ch cefnogwyr, ffrindiau, perthnasau, cydweithwyr, cymdogion, pobl rydych chi’n ei gyfarfod ar y stryd, y postman ac ati …

RHAGOR O WYBODAETH

Ewch i wythnoselusennaucymru.cymru i gael gwybod mwy a lawrlwytho’r pecyn ymgyrchu.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector – camau nesaf

Darllen mwy