Mae’n bleser gan Dîm Diogelu CGGC groesawu aelod newydd o staff, Cerri Dando, a fydd yn arwain y gwaith o ailwampio ein cynnig hyfforddiant diogelu ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae CGGC wedi darparu hyfforddiant diogelu ar gyfer y sector ers tro byd, ac yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y galw, yn enwedig am gyrsiau newydd a phecynnau pwrpasol, wedi’u teilwra i fudiadau unigol.
Mae’r argyfwng COVID-19 wedi amlygu problemau diogelu sydd wedi effeithio ar yr hyfforddiant y mae mudiadau yn ei ddarparu i’w staff a’u hymddiriedolwyr. Mae hyn hefyd wedi gofyn i ni addasu’r ffordd rydyn ni’n cyflwyno’r hyfforddiant.
Mae Cerri yn gweithio i’r NSPCC hefyd, yn yr Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon, lle y mae’n gweithio gyda Chyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol i ddatblygu eu polisïau, gweithdrefnau a phrosesau diogelu er mwyn bodloni’r Safonau Diogelu.
Yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant diogelu i wirfoddolwyr, hyfforddwyr, prif swyddogion chwaraeon, athletwyr, rhieni, byrddau a swyddogion, mae Cerri wedi bod yn ddarlithydd mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon ac yn Gyfarwyddwr Pêl rwyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Cerri wedi gweithio gyda llawer o wirfoddolwyr ac elusennau cofrestredig yn y rolau hyn.
Bydd Cerri yn dod â sgiliau, gwybodaeth a phrofiad pellach i dîm CGGC ac edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn y rôl newydd hon.
Rydyn ni’n bwriadu datblygu cynnig o’r newydd erbyn yr hydref a byddwn ni’n siarad â’n haelodau dros yr haf i sicrhau ein bod yn adlewyrchu eich anghenion.
Yn y cyfamser, os hoffech drafod anghenion hyfforddiant diogelu eich mudiad, cysylltwch â ni: Safeguarding@wcva.cymru
Gallwn ni gynnig amrediad o opsiynau, o friffiau gwybodaeth i becynnau pwrpasol wedi’u teilwra, sy’n ymwneud â’r pynciau canlynol:
- Cyflwyniad i ddiogelu
- Rôl y Swyddog Diogelu dynodedig
- Diogelu i Ymddiriedolwyr
- Recriwtio mwy diogel
- Sesiynau diweddaru Swyddog Diogelu Dynodedig
Mwy am Ddiogelu
Ewch i’n tudalen Diogelu ac amddiffyn pobl i gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gadw pobl yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau.