Myfyriwr yn gwrando ar wers ar-lein ar dabled tra bod athro gwirfoddol yn helpu myfyriwr arall mewn dosbarth Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill

Creu cyfleoedd yng Nghymru drwy grantiau Gwirfoddoli Cymru

Cyhoeddwyd : 09/10/23 | Categorïau: Cyllid | Gwirfoddoli |

Mae cynllun grant Gwirfoddoli Cymru wedi cynorthwyo mudiadau fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru i wella mynediad at wirfoddoli i bobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymdeithas.

CYFLWYNIAD I GRANTIAU GWIRFODDOLI CYMRU

Mae Grantiau Gwirfoddoli Cymru yn rhan o’n hymrwymiad i Bolisi Gwirfoddoli Llywodraeth Cymru: Cefnogi Cymunedau, Newid Bywydau, 2015. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli ac yn credu bod y cymunedau cryfaf yw’r rheini â phobl sy’n barod i gamu ymlaen a chyflawni pethau.

Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, drwy’r cynllun grant rydym wedi cynorthwyo amrywiaeth o fudiadau ledled Cymru i hyrwyddo a gwella gwirfoddoli a’i ymwreiddio yn eu diwylliant.

GWIRFODDOLI AM GYNHWYSIANT CYMDEITHASOL

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) wedi gweithio ar draws pedair dinas: Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam i roi cyfleoedd i geiswyr lloches a ffoaduriaid gymryd rhan mewn gwirfoddoli. Nod prosiect ‘Gwirfoddoli am Gynhwysiant Cymdeithasol’ WRC yw codi hunan-barch cyfranogwyr, lleihau unigrwydd, a magu eu hyder.

Mae’r cymorth drwy hyfforddi a datblygu gyda’r prosiect wedi lleihau’r rhwystrau’n aruthrol i geiswyr lloches a ffoaduriaid chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ac ymgymryd â nhw ac mae hyn, yn ei dro, wedi cynyddu’r nifer ohonynt sy’n cymryd rhan mewn gwirfoddoli. Diolch i gyllid Grant Gwirfoddoli Cymru rhwng 2022-2023, cafodd WRC 63 o wirfoddolwyr gweithredol a gyfrannodd 4,744 awr o gymorth mewn meysydd fel: Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Cyflogadwyedd, Cylch Chwarae, Codi arian, Brysbennu, Derbynfa, Eiriolwyr a Mentoriaid Cymheiriaid.

Dywedodd WRC:

‘Nid ydym, yn ein 33 mlynedd o weithredu, wedi cael cymaint o wirfoddolwyr ledled Cymru yn cefnogi ein gwaith. Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i gynyddu ein rhwydwaith o wirfoddolwyr, y mathau o rolau sydd gennym ni i’w cynnig ac i ddefnyddio mwy o waith hybrid/gwirfoddoli o bell. O bawb yn – diolch!’

Mae’r cyllid hefyd wedi helpu WRC i ddathlu eu gwirfoddolwyr drwy nifer o ddigwyddiadau. Roedd Arddangosfa Ffoaduriaid Cymru, a gynhaliwyd ym Mehefin 2023, yn ddathliad o gymunedau, mudiadau ac unigolion, a drefnwyd gyda’r gwirfoddolwyr a’r cymunedau y maen nhw’n eu cynrychioli. Gwnaeth WRC hefyd ymgorffori adborth gwirfoddolwyr ac arbenigedd yn y gymuned yn eu ffordd o weithio drwy sefydlu’r Fforwm Profiad Bywyd. Grŵp ymroddgar o wirfoddolwyr oedd y fforwm hwn a fyddai’n cwrdd bob yn ail fis i ddylanwadu ar wasanaethau a phrosiectau, ac i geisio trechu’r problemau a oedd yn effeithio ar y sector.

BETH NESAF?

Mae WRC wedi llwyddo i gael ail flwyddyn o gyllid Grant Gwirfoddoli Cymru tan Hydref 2024, gyda’r nod o wella’r profiad i’w gwirfoddolwyr drwy gynnig hyfforddiant a’u hannog i archwilio’r sector am gyfleoedd ehangach. Rydyn ni’n awyddus i glywed mwy am sut bydd y cyllid hwn yn effeithio ar fywydau gwirfoddolwyr a buddiolwyr.

GWNEUD CAIS I GYNLLUN PRIF GRANT GWIRFODDOLI CYMRU

Mae pedwerydd cylch Prif Grant Gwirfoddoli Cymru ar agor am geisiadau nawr, a’r dyddiad cau yw 22 Rhagfyr 2023. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma neu gallwch ffonio’r tîm ar 0300 111 0124, gan ddewis opsiwn 3 i gyrraedd y Tîm Grantiau.

Bydd sesiwn wybodaeth yn cael ei chynnal ar-lein ar 17 Hydref 2023 rhwng 10 am – 12 pm. Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost i grantiaugwirfoddolicymru@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy