Menyw yn sefyll ar glogwyni glaswelltog yn edrych dros yr arfordir ar ddiwrnod heulog

Creu cydlynwyr arfordirol

Cyhoeddwyd : 19/08/25 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Bydd cyllid grant newydd yn cefnogi rolau ‘Cydlynwyr Arfordirol’ yng Nghymru, gan wella’r capasiti i fynd i’r afael â phroblemau morol ac arfordirol lleol.

Mae Cronfa Her y Cydlynydd Arfordirol yn gynllun grant newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i adeiladu capasiti prosiectau lleol yn ardaloedd arfordirol Cymru.

Wedi ein llywio gan Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru), rydym yn ceisio cyllido gwaith partneriaeth seiliedig ar leoedd mewn cymunedau arfordirol er budd yr amgylchedd morol ehangach.

Bydd y cyllid yn helpu i leoli ‘Cydlynwyr Arfordirol’ newydd i ymhél â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar draws cymunedau arfordirol lleol er mwyn cyflawni canlyniadau positif i ecosystemau morol gwydn.

YNGLŶN Â’R GRONFA 

Mae Cronfa Her y Cydlynydd Arfordirol yn darparu cyllid grant refeniw i gyflogi Cydlynydd Arfordirol i adeiladu ar gydweithrediadau presennol ac ymgysylltu â chymunedau, busnesau a sefydliadau fel awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill.

Bydd rhwng £200,000 a £220,000 y flwyddyn ar y mwyaf ar gael tan 31 Mawrth 2028, a disgwylir i gost pob swydd fod yn oddeutu £65,000 y flwyddyn gan gynnwys unrhyw gostau rheoli.

Bydd y ceisiadau yn cael eu gwneud drwy’r Partneriaethau Natur Lleol a CGGC fydd yn rheoli’r cyllid yn ogystal â’r cydlyniad cyffredinol.

Y dyddiad cau am geisiadau yw 19 Medi 2025.

PWY ALL WNEUD CAIS?

Gall unrhyw bartneriaid newydd neu bresennol â diddordeb mewn cefnogi eu cymunedau arfordirol ymgeisio. I wneud cais, bydd angen i chi gysylltu â’ch Cydlynydd Partneriaeth Natur Lleol a fydd yn brif ymgeisydd ar gyfer y cyllid. Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i lnpcymru@wcva.cymru.

Gobeithir y bydd y swyddi wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol o amgylch arfordir Cymru a bod amrywiaeth o fodelau cyflawni a/neu fudiadau croesawu i gyflogi’r Cydlynwyr Arfordirol.

RÔL Y CYDLYNWYR ARFORDIROL

Yn gyffredinol, bydd y Cydlynwyr Arfordirol yn darparu system llywodraethu leol gwell ar gyfer materion morol ac arfordirol, gan ddwyn ynghyd cymunedau a pholisïau a nodau cenedlaethol.

Bydd ffocws pob Cydlynydd yn dibynnu ar anghenion a blaenoriaethau lleol. Y cam cyntaf i’r Cydlynydd fydd pennu’r angen lleol drwy fapio cysylltiadau, heriau a chyfleoedd lleol.

Y tu hwnt i hyn, gallai meysydd gwaith y Cydlynydd gynnwys y canlynol:

  • Sefydlu (neu gynnal) partneriaeth neu fforwm arfordirol lleol i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd
  • Datblygu mentrau addysg a llythrennedd y môr sy’n cyflawni ar gyfer y fframwaith, Y Môr a Ni
  • Darparu sylfaen dystiolaeth leol well sy’n seiliedig ar leoedd ar gyfer gwneud penderfyniadau
  • Nodi prosiectau adfer morol ymarferol a lliniaru pwysau

RHAGOR O WYBODAETH AC YMGEISIO

Bydd y cyllid yn cael ei ddosbarthu drwy’r Partneriaethau Natur Lleol (LNPs) a’r prosiectau yn cael eu rhedeg mewn partneriaeth â’r Cydlynydd LNP lleol. Cysylltwch â’ch Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol i drafod cyflwyno cais, neu anfonwch e-bost i lnpcymru@wcva.cymru am ragor o wybodaeth.

Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion yn nogfen ganllaw Cronfa Her y Cydlynydd Arfordirol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 12/02/26
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Cyllid newydd wedi’i sicrhau ar gyfer ecosystemau morol Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/01/26
Categorïau: Cyllid, Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Ffordd syml i gyflogwyr roi yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Mae CGGC yn chwilio am banelwyr cynghori ar gyllid newydd!

Darllen mwy