Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei Ganllawiau ar COVID-19 i gynnwys gwybodaeth ar gyfer elusennau sy’n ystyried a oes angen iddynt newid eu hamcanion er mwyn helpu yn yr ymdrech i drechu’r pandemig.
Yn gyntaf, dylai elusennau ystyried telerau eu hamcanion elusennol presennol fel y’u nodwyd yn eu dogfen lywodraethu. Mae’r amcanion a allai eisoes alluogi elusennau i gynnig cymorth yn cynnwys:
- lleihau tlodi
- lleihau angen, caledi neu drallod
- cynorthwyo pobl hŷn
- datblygu addysg pobl ifanc neu ddatblygu eu bywydau
- datblygu iechyd
Dywed y Comisiwn y gall elusennau gydag amcanion eraill hefyd addasu ac ymateb i COVD-19, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
‘Er enghraifft, gallai elusen sydd ag amcan i ddatblygu crefydd gynnig cymorth fel rhan o’i gwaith bugeiliol. Gallai elusen gelfyddydol helpu i leihau ynysu drwy ei gwaith ar-lein. Gallai fod gan eich elusen amcan cyffredinol hefyd sy’n eich galluogi i weithredu at unrhyw ddiben elusennol, neu amcan sy’n eich galluogi i gefnogi buddion cyfredol ardal leol.
Wrth ystyried yr hyn y gallwch chi ei wneud o dan eich amcanion presennol, bydd angen i chi wirio a oes unrhyw gyfyngiadau ar eich amcanion, er enghraifft, i gyflwyno budd i ardal leol benodol neu ddosbarth arbennig o fuddiolwyr.’
Os nad yw’r amcanion presennol yn caniatáu i’ch elusen helpu, mae’n bosibl y gallwch addasu eich dogfen lywodraethu er mwyn eu newid, ond dylech ystyried:
- a oes elusennau eraill a allai fod mewn sefyllfa well i ymateb na’ch un chi. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt elusennau lleol perthnasol ar ein cofrestr
- effeithiau ehangach a mwy hirdymor newid amcanion eich elusen, gan gynnwys yr effaith ar eich buddiolwyr presennol
Os ydych chi eisiau newid eich amcanion elusennol, gwiriwch i weld a oes gan eich ymddiriedolwyr y pwerau i’w diwygio, er enghraifft, gan ddefnyddio pŵer pendant yn eich dogfen lywodraethu. Os nad hyn yw’r achos, mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd y Comisiwn Elusennau.
‘Dylai unrhyw newidiadau a gynigir fod yn rhesymol ac yn gyson â’r hyn y mae eich elusen yn ei wneud, heb danseilio eich amcanion presennol. Byddwn yn blaenoriaethu ceisiadau sydd eu hangen ar frys oherwydd COVID-19.’
I gael canllawiau mwy manwl, edrychwch ar addasiadau i ddogfennau llywodraethu ar gyfer elusennau anghorfforedig a chwmnïau elusennol (Saesneg yn unig) a canllawiau ar ddogfennau llywodraethu ar gyfer Sefydliadau Corfforedig Elusennol (Saesneg yn unig).