COVID-19: dwy gronfa newydd yn cael eu cyhoeddi i gefnogi mudiadau gwirfoddol

COVID-19: dwy gronfa newydd yn cael eu cyhoeddi i gefnogi mudiadau gwirfoddol

Cyhoeddwyd : 09/04/20 | Categorïau: Cyllid |

Bydd Llywodraeth Cymru’n darparu cyllid newydd ar gyfer mudiadau gwirfoddol, y rheini sy’n cynnig cymorth rheng flaen gyda’r Coronafeirws a’r lliaws a fydd yn cael eu taro’n ariannol gan yr argyfwng.

Wedi diweddaru: 09/04/2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dwy ffrwd ariannu newydd sydd ar gael i elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Mae elusennau a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru’n wynebu cyfnod heriol ac ansicr yn ystod yr achos cyfredol o COVID-19.

Rydyn ni wedi gweld ymateb anhygoel gan bobl sydd eisiau gwirfoddoli a chan fudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Maen nhw’n gwneud gwaith hanfodol, yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar bobl a chymunedau yn ystod yr argyfwng hwn – ac yn fwy hirdymor.

Yn anffodus, wrth i’r galw am eu gwasanaethau saethu i fyny, mae llawer o fudiadau gwirfoddol dan fygythiad gan fod ffrydiau incwm yn sychu drwodd draw. Mae llawer llai o ymdrechion codi arian ar droed gan fod llawer o farathonau, cyngherddau elusennol a digwyddiadau gwerthu cacennau wedi’u canslo. Nid yw dulliau creu incwm eraill, fel canolfannau cymunedol, siopau a gwasanaethau lletygarwch yn bosibl nawr chwaith.

Cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol

Cynllun grant newydd i alluogi mudiadau gwirfoddol i ddarparu cymorth hanfodol yn ystod argyfwng y Coronafeirws er mwyn parhau â’u gwaith a’i ehangu.

Mae’r sector gwirfoddol ar hyd a lled Cymru’n chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi’r rheini mewn angen ledled cymunedau Cymru. Yn yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol, mae angen i gyllid gyrraedd y rheini sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau’n gyflym er mwyn diwallu’r cynnydd enfawr mewn angen.

Mae’r gronfa nawr ar agor – ymgeisiwch yma

Cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru

Cyllid i ddarparu cefnogaeth llif arian ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng COVID-19 cyfredol.

Er mwyn helpu mudiadau gwirfoddol i barhau â’u busnes, rydyn ni, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi cyflwyno cronfa gwydnwch trydydd sector Cymru i gynnig cymorth llif arian i helpu mudiadau drwy’r argyfwng presennol.

Mae’r gronfa nawr ar agor – ymgeisiwch yma

Gweinyddir yr arian hwn trwy borth ymgeisio ar-lein WCVA – MAP

Os nad yw’ch mudiad eisoes wedi’i gofrestru gyda MAP, gwnewch hynny nawr fel eich bod yn barod pan fydd yr arian yn mynd yn fyw. Gellir cyrchu ein system MAP ar map.wcva.cymru

Rhagor am gyllid a Covid-19

Ewch i: Diweddariadau ac arweiniad ar COVID-19

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy