Mae COVID-19 wedi effeithio ar y sector gwirfoddol, ond mae ei effaith yn cael ei deimlo mewn ffyrdd gwahanol gan fudiadau gwahanol. Mae amrywiaeth mudiadau gwirfoddol Cymru yn gryfderau, ond mae’n golygu bod darparu cefnogaeth iddyn nhw, yn ogystal â chlywed beth yw’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, yn golygu bod angen gallu adlewyrchu’r amrywiaeth honno.
Mae CGGC wedi cysylltu’n rheolaidd â mudiadau gwirfoddol o bob math, boed hynny’n gyrff anllywodraethol rhyngwladol neu’n grwpiau cymunedol bychan. Rydyn ni wedi clywed gan y mudiadau hynny sydd ar y rheng flaen, sy’n gweithio gyda’r GIG i drin COVID-19, a’r rhai sy’n helpu cymunedau i gefnogi ei gilydd.
Lle bo hynny’n bosibl, mae’r sector gwirfoddol yn cyfrannu llawer i’r ymdrechion cenedlaethol er mwyn trechu COVID-19. Mae rhai yn canfod ffyrdd newydd i helpu pobl sy’n byw mewn tlodi. Mae sefydliadau eraill wedi darganfod ffyrdd newydd o weithio sy’n eu galluogi nhw i ail greu rhywfaint o’u gwaith ar-lein. Mae llawer o bobl wedi gwneud hyn yn ystod cyfnod lle mae eu hincwm yn gostwng ac maen nhw’n poeni am eu gallu i roi’r gefnogaeth hon yn y dyfodol.
Mae CGGC wedi casglu’r wybodaeth rydyn ni wedi bod yn ei derbyn – yn aml yn gyfrinachol – o’r sector gwirfoddol. Rydyn ni wedi creu crynodeb o’r rhain gyda’r nod o amlygu’r themâu allweddol sy’n wynebu elusennau a grwpiau gwirfoddol o bob maint yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ar faterion fel gwirfoddoli, cadernid ariannol, cyfleusterau cymunedol, a darparu gwasanaethau. Mae ein crynodeb wedi’i seilio ar ystod eang o ffynonellau, o rwydweithiau cenedlaethol, i hybiau elusennol lleol.
Mewn nifer o’r meysydd hyn, mae newidiadau cadarnhaol i’w gweld yn ogystal â rhai negyddol. Canolbwynt hynny yw’r ffaith bod y sector wedi gorfod addasu’n gyflym mewn cyfnod o ansicrwydd arwyddocaol. Mae rhai o’r addasiadau hynny’n ysbrydoli, ac eraill yn addasiadau angenrheidiol. Trwy ddechrau eu cofnodi, rydyn ni’n gobeithio y byddwn yn gallu gosod sylfaen ar gyfer cefnogi’r sector gwirfoddol yn y dyfodol.
Mae CGGC yn fodlon clywed gan fudiadau’r sector gwirfoddol sy’n gallu ychwanegu rhywbeth at hyn – pa un ai a ydych yn cytuno â’n dadansoddiad ai peidio neu’n meddwl bod angen ychwanegu rhywbeth arall. Cysylltwch â ni ar policy@wcva.cymru.