Rydyn ni wedi ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cymreig ar effaith yr achosion o goronafeirws ar economi Cymru.
Yn yr ymateb, rydyn ni wedi nodi:
- Byddai’n well gennym weld y cyfyngiadau symud yn cael eu codi’n raddol ledled y DU, er mwyn osgoi anfanteision economaidd posibl ledled y pedair cenedl.
- Bydd angen cryn dipyn o gymorth ychwanegol ar Gymru, yn enwedig gan ystyried y cwestiynau ynghylch effeithiolrwydd Fformiwla. Dylai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU fod yn offeryn hanfodol i ddarparu hwn, ond Llywodraeth Cymru ddylai ei gweinyddu.
- Rydyn ni wedi nodi’r angen am ragor o gymorth i’r mudiadau gwrfoddol hynny sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth, gan gynnwys mudiadau natur a chefn gwlad, yn ogystal â’r diwydiant twristiaeth ei hun.
- Bydd angen rhagor o gymorth ar seilwaith a gwasanaethau a gweithgareddau rheng flaen y sector er mwyn harneisio ymdrechion ein cymunedau.
- Mae’r argyfwng wedi amlygu anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes mewn cymdeithas, fel y rheini a wynebir gan grwpiau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
- Nid yw cyfathrebu eglur a hygyrch erioed wedi bod mor bwysig.
- Dylid cytuno ar drefniadau ar lefel genedlaethol er mwyn galluogi llwybrau i’r sector cyhoeddus gydweithio gyda’r sector gwirfoddol, a chryfhau ei allu i ymateb i argyfyngau yn y dyfodol.
- Mae elusennau canolig eu maint yn cael eu hanghofio yn y strwythur cymorth sy’n cael ei gynnig.
- Bydd darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau ar ôl yr argyfwng yn gofyn am ffordd arall o gysylltu ac ymhél â’r cymunedau eu hunain. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen adnoddau, cynllunio a chymorth.
- Ar ôl yr argyfwng, bydd angen canolbwyntio ar ofal yn agosach at adref neu yn y cartref neu’r gymuned.
- Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau cyflog ac amodau gwaith teg i’r rheini yn y sector gofal.
- Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio gydag elusennau ac asiantaethau arbenigol yn cefnogi’r rheini a dderbyniodd llythyrau gwarchod, ac yn yr elusennau sy’n gweithio gyda’r grŵp agored i niwed ehangach.
Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma a gweld archif o’n hymatebion i hen ymgynghoriadau yma.
Hoffem ddiolch i’r holl fudiadau a gyfrannodd at yr ymateb hwn.