Ar y dudalen hon, byddwch yn gweld casgliad o adnoddau a gwybodaeth sy’n cynnig cymorth i fudiadau gwirfoddol o ran yr heriau sy’n codi yn sgil yr argyfwng costau byw.

Byddwn yn parhau i ychwanegu at yr adnoddau a’r cyngor yn yr adran hon wrth i’r sefyllfa ddatblygu. I’ch helpu, rydym wedi rhestru’r wybodaeth o dan y penawdau canlynol –

Polisi, ymchwil a sylwadau

Cyllid a chodi arian

Materion sy’n ymwneud ag ynni ac eiddo

  • Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi estyniad i’w Gwarant Pris Ynni, a oedd i fod i gael ei gwtogi o fis Ebrill – Cymorth bil ynni i barhau tan ddiwedd mis Mehefin (Saesneg yn unig)
  • Mae gan Lywodraeth y DU gasgliad o awgrymiadau arbed ynni yn y cartref – Syniadau arbed ynni i arbed arian (Saesneg yn unig)
  • Llywodraeth y DU yn cyhoeddi cynlluniau i helpu busnesau a mudiadau gwirfoddol gyda’u biliau ynni. Er y bydd hyn yn cael ei leihau o fis Ebrill 2023 – Cynllun Cymorth Biliau Ynni (Saesneg yn unig)
  • Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Warant Pris Ynni (Saesneg yn unig) a fydd yn golygu y bydd y prisiau ynni yn cael eu cadw ar £2,500 ar gyfer y cartref cyffredin tan fis Ebrill 2023. Bydd hyn yn ychwanegol at y cymorth o £400 fesul cartref a gyhoeddwyd yn flaenorol. Bydd cymorth yn cael ei dargedu at nifer llai o aelwydydd yn dilyn hyn
  • Mae DTA Cymru yn darparu gwasanaeth Grŵp Gweithredu Ynni (EAG) (Saesneg yn unig) a all ddarparu dyfynbrisiau cystadleuol er mwyn arbed arian sylweddol i’ch ased neu fenter sy’n eiddo i’r gymuned

Rheolaeth ariannol

Llywodraethu a gwneud penderfyniadau

Pobl

Ffynonellau eraill o help

  • Mae Cymru Gynnes wedi llunio canllaw i’ch helpu i lywio drwy’r cymorth ariannol sydd ar gael i unigolion yn ystod y cyfnod hwn – Cymorth costau byw
  • Mae’r Sefydliad Siartredig Codi Arian wedi dwyn ynghyd gwaith ymchwil, canllawiau a chyngor perthnasol i helpu mudiadau gwirfoddol i barhau i gynhyrchu incwm yn ystod y cyfnod hwn – Y Sefydliad Siartredig Codi Arian (Saesneg yn unig)
  • Mae’r Cyfeiriadur Newid Cymdeithasol (DSC) wedi creu tudalen sy’n dwyn ynghyd detholiad o’u hadnoddau er mwyn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol – Hwb costau byw y DSC
  • Mae The Charity Excellence Framework wedi lansio #surviveandthrive (goroesi a ffynnu) fel eu hymateb i’r argyfwng costau byw, sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth am gyllid grant – Charity Excellence (Saesneg yn unig)
  • Mae ACEVO wrthi’n casglu dolenni i adroddiadau, arolygon a data gwybodaeth er mwyn cynorthwyo arweinwyr cymdeithas sifil i gael gwell dealltwriaeth o effaith yr argyfwng ar eu mudiadau, rhanddeiliaid a’r sector yn gyffredinol – Tudalen costau byw AVECO (Saesneg yn unig)
  • Mae’r New Philanthropy Capital wedi creu canllaw â gwybodaeth am effaith yr argyfwng costau byw a sut gall elusennau addasu – NPC confronting the cost of living crisis (wynebu’r argyfwng costau byw) (Saesneg yn unig)
  • Mae gan Cranfield Trust wasanaeth cynghori dros y ffôn i helpu elusennau i ddatrys problemau a chael atebion i gwestiynau rheoli dybryd – Gwasanaeth ‘On Call’ (Ar alwad) Cranfield Trust (Saesneg yn unig)
  • Cyngor Llywodraeth Cymru ar y cymorth sydd ar gael i unigolion – Cael help gyda chostau byw