Yn ddiweddar, gwnaeth y Gweinidog Cyllid siarad â chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol am y cyd-destun ariannol presennol ac am gyllideb i ddod Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â’n partneriaid, fe wnaethon ni leisio pryderon y sector gwirfoddol ynghylch yr argyfwng costau byw presennol.
Yn ystod y cyfarfod, amlinellodd y Gweinidog y cyd-destun economaidd ac ariannol ledled y DU a’i effaith debygol ar Lywodraeth Cymru. Gwnaeth cynrychiolwyr y sector gwirfoddol godi materion o ran effaith prisiau uwch ar eu gwaith yn ogystal â phwysigrwydd lefelau cyllido cynaliadwy, mwy hirdymor gan Lywodraeth Cymru er mwyn cadw staff. Gwnaethon ni hefyd drafod heriau’r rheolau llym presennol ar hyblygrwydd diwedd blwyddyn.
CYMUNEDAU MEWN PERYGL
Dywedodd Iwan Thomas, Prif Weithredwr PLANED a oedd yn cynrychioli’r rhwydwaith cymunedau yn y cyfarfod, ‘Er ein bod yn gwybod am yr heriau ariannol sy’n wynebu aelwydydd yr hydref a’r gaeaf hwn, mae asedau cymunedol a’u gwirfoddolwyr hefyd mewn perygl sylweddol. Yn Sir Benfro yn unig, mae 74 o neuaddau cymunedol yn darparu cyfleoedd rhyngweithio, gweithgareddau a chymorth rheng flaen allweddol o fewn eu cymunedau er mwyn mynd i’r afael ag ynysu a llesiant. Lluoswch y ffigur hwn â’r 22 sir yng Nghymru, ac mae’n dangos faint o strwythurau cymorth allweddol sydd mewn cymunedau ac sydd nawr mewn perygl. Heb gymorth ariannol parhaus iddyn nhw a’u gwirfoddolwyr i gadw’r drysau ar agor a’r goleuadau ynghyn, bydd llawer mwy o bobl yn cael eu hynysu ac yn wynebu niwed pellach sylweddol.’
Ynghyd â hyn, hon fydd yr eitem gyntaf ar agenda cyfarfod nesaf Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, lle byddwn ni’n lleisio pryderon fel: effaith y galw cynyddol am wasanaethau elusennol sy’n effeithio ar gynaliadwyedd mudiadau, yr effaith anghyfartal ar grwpiau ar y cyrion, a’r angen i’r sector gwirfoddol fod yn rhan o drafodaethau ar unrhyw ddatrysiadau i’r argyfwng hwn. Rydyn ni’n ymrwymedig i gyhoeddi’r gwaith papur ar gyfer y cyfarfod hwn fel y gellir ei ddefnyddio’n ehangach.
Rydyn ni hefyd yn bwriadu codi’r materion hyn gyda Gweinidogion eraill, gan gynnwys y Gweinidog Iechyd, Gweinidog yr Economi a’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Byddwn yn siŵr o godi hyn gyda Gweinidogion eraill hefyd.
CAEL EI GLYWED
Mae CGGC, fel y corff aelodaeth cenedlaethol ar gyfer y sector gwirfoddol, eisiau sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed gan y llywodraeth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Ruth Marks eisoes wedi blogio ar bwysigrwydd y mater hwn i CGGC ac mae CGGC wedi lansio arolwg i glywed gan y sector ynghylch sut mae’r materion hyn yn effeithio arnyn nhw.
Mae’r argyfwng costau byw yn debygol o bara am gryn dipyn o amser, felly mae sicrhau bod gan y sector gwirfoddol ddulliau da o fynd ati i fyfyrio ar eu pryderon, a phryderon y bobl y maen nhw’n gweithio gydag ef, yn mynd i fod yn hanfodol.
Cysylltwch ag CGGC os hoffech chi rannu eich profiadau, neu rhowch wybod i ni os oes gennych chi syniadau ar sut gall y sector gefnogi pobl yn ystod y cyfnod hwn. Anfonwch e-bost at policy@wcva.cymru i gysylltu â ni ar y mater hwnnw.