Mae pandemig y coronafeirws wedi cyflwyno problemau difrifol i ymddiriedolwyr pob elusen, sy’n golygu bod rheoli risg a gwneud penderfyniadau effeithiol yn bwysicach nag erioed.
Mae’r materion sydd angen i ymddiriedolwyr eu hystyried yn cynnwys:
- Sut i gynnal cyfarfodydd a gwneud penderfyniadau
- Sut i nodi unrhyw risgiau i’ch elusen, gan gynnwys risgiau ariannol
- Sut i ddiogelu eich buddiolwyr, staff a gwirfoddolwyr
- Sut i gefnogi cyflogeion gyda chamau i gadw pellter cymdeithasol a’r rheini a allai orfod hunanynysu
- Sut i drafod unrhyw darfiad i wasanaethau a phrosiectau gyda chyllidwyr
Bydd CGGC yn darparu diweddariad dyddiol ar gyfer y sector gyda’r newyddion diweddaraf: diweddariadau ac arweiniad ar COVID-19
Gall ymddiriedolwyr hefyd gael cymorth lleol gan y cynghorau gwirfoddol sirol (CVCs)
Gallwch gysylltu â CGGC ag unrhyw gwestiynau cyffredinol ynghylch llywodraethiant drwy e-bostio governance@wcva.cymru
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelu, cysylltwch â’n gwasanaeth diogelu safeguarding@wcva.cymru
Mae llawer o gyllidwyr elusennau wedi dweud y byddant yn ceisio bod yn hyblyg ac yn sympathetig yn ystod y cyfnod hwn, felly byddem yn eich argymell i gysylltu â nhw i drafod unrhyw darfiad posibl i raglenni a gyllidir ar unwaith.
Dyma rai adnoddau a allai fod o gymorth i chi:
Mae Dan Francis, Uwch Ymgynghorydd Llywodraethiant y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) wedi blogio am Goronafeirws a Llywodraethiant. Mae’r blog yn cynnwys rhestr o gwestiynau i feddwl amdanynt a chanllawiau ar gynnal cyfarfodydd o bell.
Gallwch weld canllawiau ar bynciau penodol isod:
- Cyfarfodydd – Canllawiau’r Comisiwn Elusennau
- Cynllunio parhad – Charities facilities management group
- Rheoli risg – Institute of Risk Management
- Cyllid elusennau – The Charity Finance Group
- Cyflogaeth – ACAS
Canllawiau’r Comisiwn Elusennau
Mae’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr wedi nodi:
Rydym eisiau sicrhau elusennau y bydd ein dull rheoli yn ystod y cyfnod hwn mor hyblyg a chefnogol â phosibl. Mae’n rhaid i elusennau, a ninnau, roi blaenoriaeth i ofalu am y cyhoedd a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Gall elusennau fod yn hyderus y byddwn, lle bynnag y bo’n bosibl, yn ymddwyn mewn modd pragmataidd drwy ystyried y buddiannau cyhoeddus ehangach yn ystod y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o’r blaen.
Gall ymddiriedolwyr gysylltu â’r Comisiwn i ofyn am estyniad ar gyflwyno’u ffurflen flynyddol os bydd angen.
Os oes angen i chi gysylltu â’r Comisiwn, gallwch ffonio’r ganolfan gyswllt ar 0300 066 9197.