Er mis Ebrill 2020 bu elusennau’n gallu cynnal cyfarfodydd dros y ffôn neu ar-lein, hyd yn oed os nad yw eu dogfen lywodraethu yn caniatáu hyn. Fe wnaeth yr hyblygrwydd hwn alluogi i nifer o elusennau ddal i weithredu yn ystod y cyfnodau clo.
Mae’r Comisiwn Elusennau wedi diweddaru ei ganllawiau coronafeirws, sy’n cynnwys newidiadau i’r canllawiau ar gynnal cyfarfodydd o bell
Fodd bynnag, nawr bod y rhan fwyaf o’r cyfyngiadau wedi cael eu codi, dywedodd y Comisiwn Elusennau y bydd angen i elusennau, o 22 Ebrill ymlaen, gydymffurfio â’u dogfen lywodraethu.
Mae hyn yn golygu y bydd angen i elusennau sicrhau bod eu dogfen lywodraethu yn caniatáu iddynt gynnal cyfarfodydd o bell os hoffent ddal i wneud hynny o 22 Ebrill ymlaen. Dyma’u canllawiau diweddaraf:
Cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn
‘Dylai ymddiriedolwyr edrych a yw dogfen lywodraethu eu helusen yn caniatáu iddynt gynnal cyfarfodydd ar-lein, dros y ffôn neu drwy ddull hybrid (gyda rhai pobl yn cyfarfod wyneb yn wyneb ac eraill yn ymuno’n rhithiol).
Os nad yw eich dogfen lywodraethu yn caniatáu cyfarfodydd ar-lein, dros y ffôn neu hybrid dylech ystyried a allwch ddefnyddio unrhyw bŵer (sydd fel arfer yn eich dogfen lywodraethu) i ddiwygio’r rheolau er mwyn caniatáu’r mathau hyn o gyfarfodydd. Dylech ddiweddaru’r ddogfen lywodraethu a chymeradwyo unrhyw benderfyniadau blaenorol cyn gynted â phosibl.’
Gall elusennau wneud newidiadau i’w dogfen lywodraethu ac mae rhagor o arweiniad am y newidiadau diweddaraf i’w gael ar y wefan: Sut i wneud newidiadau i ddogfen lywodraethu eich elusen (Saesneg yn unig)
Mae’r Sefydliad Llywodraethu Siartredig wedi cynhyrchu nodyn cyfarwyddyd ar Ymarfer Da ar gyfer cyfarfodydd bwrdd a phwyllgorau rhithiol (Saesneg yn unig) a allai hefyd fod yn ddefnyddiol i fyrddau ymddiriedolwyr sydd eisiau dal i gyfarfod o bell.
Ni cheir dim rhagor o estyniadau ar gyfer ffeilio. Yn ystod y pandemig fe wnaeth y Comisiwn hefyd ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cyfrifon blynyddol a datganiadau blynyddol i lawer o elusennau. Daeth hyn i ben fis Medi diwethaf, ond mae’r Comisiwn yn dal i gael ceisiadau.
I gael rhagor o fanylion, gweler canllawiau coronafeirws (COVID-19) i’r sector elusennol (Saesneg yn unig)