Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr, yr wythnos sy’n dathlu’r cyfraniad amhrisiadwy y mae miliynau o wirfoddolwyr yn ei wneud i gymdeithas bob dydd, yn dathlu 40 mlynedd eleni.
Digwyddiad blynyddol yw’r *Wythnos Gwirfoddolwyr, lle y mae elusennau, grwpiau gwirfoddol, mudiadau cymdeithasol a gwirfoddolwyr eu hunain yn dod ynghyd i gydnabod yr effaith anhygoel y mae gwirfoddoli yn ei chael mewn cymunedau ar hyd a lled y DU.
Eleni, rydyn ni’n dathlu 40 mlynedd o’r Wythnos Gwirfoddolwyr, a chyda phartneriaid ledled y DU, gallwn ni gadarnhau y bydd dathliadau 2024 yn lansio ar ddydd Llun 3 Mehefin 2024 ac yn parhau hyd ddydd Sul 9 Mehefin 2024.
WYTHNOS GWIRFODDOLWYR 2024
Mae gwirfoddoli yn adeiladu cysylltiadau, yn tyfu sgiliau ac yn rhoi yn ôl i gymdeithas. A gwelwyd ei fod hefyd yn dda i lesiant gwirfoddolwyr.
I helpu i wneud yn siŵr bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan, rydyn ni wedi newid dyddiad lansio’r Wythnos Gwirfoddolwyr i’r dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin, gan ddechrau ar ddiwrnod o’r wythnos. Eleni, bydd y gyfres wythnos gyfan hon o ddigwyddiadau yn dechrau ar ddydd Llun 3 Mehefin 2024.
Fel rhan o’r Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, bydd gennym ni hefyd *yr Help Llaw Mawr rhwng dydd Gwener 7 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin 2024. Mae hwn yn gyfle gwych arall i bobl o bob cwr o’r DU ddod ynghyd a phrofi pa mor werth chweil y gall gwirfoddoli fod.
MWY AM YR WYTHNOS GWIRFODDOLWYR
Caiff yr Wythnos Gwirfoddolwyr ei threfnu gan Fforwm Gwirfoddoli’r DU, sef partneriaeth rhwng *NCVO (Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol), CGGC, *Volunteer Scotland a *Volunteer Now.
Bob blwyddyn, mae cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal, ar-lein ac wyneb yn wyneb, i ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr a’r amrediad enfawr o ffyrdd y mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser. Yr un fydd yr achos eleni. Bydd amrywiaeth eang o weithgareddau yn digwydd ledled Cymru a gweddill y DU, o ddigwyddiadau recriwtio gwirfoddolwyr a diwrnodau agored i ddigwyddiadau dathlu a chydnabod.
Bydd rhagor o wybodaeth ac adnoddau brandio newydd, gan gynnwys logo newydd, ar gael yn fuan yn: *volunteersweek.org.
*Gwefannau Saesneg yn unig