Mae llythyr diweddar gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi pwysleisio’r angen i Lywodraeth Cymru fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol ar frys.
Y LLYTHYR
Nododd y llythyr gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod fwy o bwysau ariannol ar awdurdodau lleol, gan ddweud:
‘Credir y bydd oddeutu £559 miliwn o bwysau ar wasanaethau llywodraeth leol yn 2025-26 – £38 miliwn yn uwch na chredwyd yn flaenorol’.
Bydd 45% o’r pwysau hyn a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf yn dod o wasanaethau cymdeithasol yn unig, sydd gyfwerth â £106 miliwn o orwariant ychwanegol.
Mae’r ffigurau hyn yn frawychus o ran sut bydd y pwysau hwn yn effeithio ar bobl, cymunedau a’r sector gwirfoddol. Gwnaeth arolwg 2023 CGGC o Gyflwr y Sector ddangos nad oedd 27% o elusennau yn credu y gallent ateb y galw cynyddol am wasanaethau. Roedd 43% ohonynt wedi lleihau nifer eu staff, a 37% ohonynt yn derbyn llai o atgyfeiriadau.
Ar hyn o bryd, mae angen mwy o arian ar y sectorau gwirfoddol a statudol dim ond i gynnal yr un safon o wasanaethau rydym eisoes yn eu cynnig. A oes cyfle i ni yma i wynebu argyfwng gyda’n gilydd a chael trafodaeth onest am sut rydym yn helpu pobl yn gynt?
YR ACHOS DROS ATAL
Gwell rhwystro’r clwy’ na’i wella. Mae’r sector gwirfoddol yma i ddarparu a diwallu anghenion mewn partneriaeth – ac mae’r gair hwn yn allweddol, gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol statudol.
Yn ôl yr ystadegau:
- Mae dros 12,000 o fudiadau sector gwirfoddol yng Nghymru yn cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol
- Mae’r mudiadau hyn yn cyflogi bron 59,000 o bobl mewn 2,700 o leoliadau
- Mae mwy na 60,000 o bobl yn gwirfoddoli mewn rolau iechyd a gofal cymdeithasol mewn elusennau yng Nghymru yn unig
- Mae 17% o wirfoddolwyr yn gysylltiedig â’r sector cyhoeddus
- Mae 938,000 o bobl yn gwirfoddoli ar draws pob sector yng Nghymru bob blwyddyn
- Mae 584,134 o oedolion yn ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae hyn yn cyfrannu £8.1 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn
Mae’r ffigurau hyn yn tanlinellu’r rôl sylweddol y mae’r sector gwirfoddol yn ei chwarae mewn cefnogi’r dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
FFRAMWAITH AR GYFER GWIRFODDOLI YM MAES IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Ynghyd â hyn, gwnaeth 90 o fudiadau sy’n darparu iechyd a gofal cymdeithasol gael eu harolygu wrth ddatblygu’r Fframwaith ar gyfer Gwirfoddoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gwnaeth y canfyddiadau ddatgelu’r canlynol:
- Roedd 67% ohonynt o’r sector elusennol
- Roedd gan 90.5% ohonynt brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
- Roedd 50% o’r gwirfoddolwyr a ddefnyddiwyd gan y mudiadau hyn yn gweithio yn y maes gofal cymdeithasol, 34% ohonynt yn gweithio yn y maes iechyd gofal a’r lleill yn gweithio yn y maes gwybodaeth ac eiriolaeth
- Dywedodd 30% o’r mudiadau eu bod yn gweithredu’n swyddogol mewn partneriaeth â phartneriaid iechyd a gofal statudol, ond mewn gwirionedd, roedd yn teimlo mwy fel gweithio ochr yn ochr â nhw. Dywedodd 26% ohonynt eu bod dim ond yn gweithio ochr yn ochr â’r sector statudol, ond nad oedd unrhyw gytundeb partneriaeth. Dywedodd 11% ohonynt nad oedd ganddynt unrhyw gydberthynas â darparwyr statudol
YR ACHOS DROS SGWRS GYNNAR A PHARHAUS
Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos yr angen am sgyrsiau mwy cyson ac ystyrlon rhwng y sector gwirfoddol a’r sector statudol. Wrth i Gymru wynebu fwyfwy o bwysau cyllido, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ynghylch sut i gydlynu ein hymdrechion yn well a darparu gwasanaethau mewn modd effeithiol.
Mae Prosiect Iechyd a Gofal CGGC eisoes yn hwyluso hyn lle bynnag y gallwn ni, ond ni allwn ni wneud popeth. Rhaid talu sylw i’r neges ynghylch sgyrsiau cynnar a pharhaus, waeth a yw’r broblem yn un newydd neu’n ymwneud â chau gwasanaethau, newidiadau mewn deddfwriaeth neu reoliadau neu gyllido sifftiau. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd sgyrsiau parhaus. Pan ddaw hi i gyllid, rhaid i bob parti gael eu llywio gan y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector.
Mae methu â chynnwys pob parti yn y sgyrsiau hyn yn rhoi gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl ac yn tanseilio mentrau allweddol Llywodraeth Cymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymru Iachach a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles sydd i ddod.
Trwy feithrin sgyrsiau parhaus, gallwn weld ble mae dyblygiad posibl mewn gwasanaethau, darparu gwasanaethau mewn modd cydgynhyrchiol, nodi unrhyw ddulliau i wella cost-effeithiolrwydd a mwy, gyda’r nod o ddarparu’r gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn y mae cymaint o bobl ar hyd a lled Cymru yn dibynnu arnynt.
AM FWY O WYBODAETH
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Prosiect Iechyd a Gofal CGGC.