Mae angen aelodau newydd ar grŵp ymchwil SUPER er mwyn cynorthwyo ymchwilwyr gydag agweddau allweddol o’u gwaith.
Mae gwaith ymchwil iechyd a gofal yng Nghymru (a thu hwnt) yn gynyddol yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd fel gwirfoddolwyr o fewn y timau sy’n cynllunio a chynnal astudiaethau. Mae’r bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal yn cyfrannu eu harbenigedd sy’n seiliedig ar brofiad er mwyn cynorthwyo staff academaidd, clinigol a rheoli i gynllunio a chynnal prosiectau ymchwil.
Mae cynorthwyo gwaith ymchwil fel rhan o dîm ymchwilio yn rôl wahanol i fod yn gyfranogwr ymchwil, lle byddwch yn darparu data er mwyn ateb cwestiwn ymchwil.
Grŵp o aelodau o’r cyhoedd sy’n gweithio gyda Chanolfan PRIME Cymru ar waith ymchwil ynglŷn â gofal sylfaenol a gofal mewn argyfwng yw SUPER. Yn Saesneg, mae SUPER yn sefyll am Service Users for Primary and Emergency care Research.
Mae Canolfan PRIME Cymru yn gydweithrediad rhwng ymchwilwyr o bedair prifysgol sy’n cwblhau gwaith ymchwil perthnasol yn rhyngwladol er budd gofal cleifion http://www.primecentre.wales/
Mae aelodau SUPER yn cynorthwyo ymchwilwyr trwy ddarparu persbectifau lleyg ar ddatblygu, cynnal a rhannu gwaith ymchwil ynglŷn â gwasanaethau gofal sylfaenol ac mewn argyfwng. Mae’r ymglymiad hwn yn cynorthwyo i wella perthnasedd, ansawdd a lledaeniad gwaith ymchwil ar y pynciau hyn.
Mae SUPER yn cwrdd yn chwarterol, mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy Zoom. Yn y cyfarfodydd hyn, mae ymchwilwyr ac aelodau SUPER yn trafod prosiectau ymchwil sy’n cael eu datblygu neu sydd ar waith. Dyma’r mathau o bwyntiau a wnaed gan aelodau SUPER:
- Fe ofynnon nhw i ymchwilwyr gynnwys safbwyntiau pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a’r rheini â phroblemau clyw a golwg pan yn ymchwilio i ymgynghoriadau ar-lein â meddygon teulu.
- Roedden nhw’n cytuno ei bod yn bwysig cynorthwyo teuluoedd sy’n gofalu am anwyliaid sy’n marw gartref. Roedden nhw’n teimlo y byddai nifer o ofalwyr sy’n galaru, o gael eu gwahodd i siarad am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, yn ei gweld o gymorth cael siarad hyd yn oed os yw emosiynau’n parhau i deimlo’n ffres. Fe anogon nhw ymchwilwyr i beidio ag osgoi eu cyfweld nhw.
- Fe ofynnon nhw a oedd pobl yn gweld gofal llygaid fel iechyd neu ffasiwn, pan yn gwneud sylwadau ynglŷn â chael mynediad at optegwyr.
Mae SUPER yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’r grŵp. Maen nhw’n chwilio am bobl sydd â’r sgiliau, yr agweddau a’r profiadau canlynol:
- Rydych chi wedi defnyddio gwasanaethau gofal sylfaenol neu mewn argyfwng, neu rydych chi yn/ wedi gofalu am rywun sydd/ oedd ag angen am y gwasanaethau hyn.
- Rydych chi’n cefnogi’r syniad y dylai cleifion ac aelodau o’r cyhoedd fod ynghlwm â gwaith ymchwil – golyga hynny gynorthwyo i gynllunio a chynnal gwaith ymchwil a gwneud canfyddiadau’n gyhoeddus.
- Gallwch anfon a derbyn e-byst a chymryd rhan mewn trafodaethau, gan gynnwys trwy Zoom neu blatfformau fideo ar-lein eraill.
- Gallwch fynychu cyfarfodydd yn ystod y dydd ar ddyddiau gwaith. Mae cyfarfodydd ar-lein fel arfer yn para tua dwy awr a hanner, yn y bore neu’r prynhawn. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb rhwng 10.30am a 2.30pm, gyda thoriadau ar gyfer lluniaeth a chinio. Yn ystod pandemig COVID-19, buont yn cynnal eu cyfarfodydd ar-lein trwy Zoom, ond maen nhw’n gobeithio cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb eto yn y dyfodol.
Croesewir yn enwedig pobl o wahanol gefndiroedd ethnig a diwylliannol, y rheini sy’n gweithio a’r rheini sydd rhwng 18-45 oed.
Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch Bridie Evans, os gwelwch yn dda: b.a.evans@swansea.ac.uk. Dywedwch wrthym beth, yn eich barn chi, y gallwch ei gyfrannu at SUPER, mewn 200 o eiriau.
Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â chynorthwyo gwaith ymchwil yng Nghymru yn https://healthandcareresearchwales.org/cy/cyhoeddus/helpwch-gydag-ymchwil