Dyn yn gwenu ar ei iPad ac yn gwneud ychydig o siopa Nadolig ar-lein gydag addurniadau Nadolig yn y cefndir

Chwilio am syniad Nadoligaidd syml i godi arian?

Cyhoeddwyd : 22/11/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae easyfundraising yn troi siopa dyddiol yn hud bob dydd, drwy weithio gyda brandiau i roi rhan o’r hyn y mae siopwyr yn ei wario i elusennau a mudiadau gwirfoddol eraill.

BETH YW EASYFUNDRAISING?

Cafodd cymuned *easyfundraising, gyda mwy na 2 filiwn o gefnogwyr, ei lansio yn 2005. Mae’r gymuned wedi codi dros £50 miliwn ar gyfer miloedd o elusennau ledled y DU.

Mae easyfundraising yn partneru â mwy na 7,000 o frandiau sy’n rhoi rhan o’r hyn y mae siopwyr yn ei wario i achos o’u dewis, a hynny am ddim.  Y brandiau partner sy’n talu’r holl gostau.

Felly pryd bynnag y bydd eich gwirfoddolwyr, staff neu gefnogwyr eraill yn prynu rhywbeth ar-lein, bydd y manwerthwr yn anfon naill ai swm ariannol safonol neu ganran o’r hyn a wariwyd, ac ni fydd yn costio’r un ddimai goch i’r cefnogwr.

CODI ARIAN DROS Y NADOLIG

A wyddoch chi y bydd 70% o siopwyr yn gwneud eu siopa Nadolig ar-lein eleni? Gellid troi’r siopa hwn yn arian i’ch mudiad yn hawdd.

Bydd hoff fanwerthwyr anrhegion Nadolig pawb, fel eBay, Amazon, Argos, John Lewis, Currys, Etsy, M&S, Boots, Dunelm, Waterstones a Lakeland i gyd yn rhoi arian i fudiad cofrestredig a ddewisir pan fydd eich cefnogwyr yn siopa gyda nhw.

Mae’r broses yn syml iawn – bydd siopwr ar-lein yn prynu rhywbeth gan un o’r manwerthwyr uchod neu filoedd o rai eraill, a bydd y manwerthwr yn anfon rhodd at eich mudiad gwirfoddol, elusen neu Gwmni Buddiannau Cymunedol fel diolch.

Gall pob math o fudiadau cymunedol dderbyn y cyllid hwn, y cwbl y mae angen i’ch mudiad ei wneud yw cofrestru gydag easyfundraising. *Cofrestrwch eich mudiad heddiw, mae’n rhad ac am ddim!

Y BUDDION

  • Am ddim i gofrestru a’i ddefnyddio ac mae 200,000 o achosion eisoes yn credu ei fod yn ddibynadwy
  • Ar agor i fudiadau gwirfoddol o bob siâp a maint, nid oes angen i chi fod yn elusen
  • Cyllid anghyfyngedig yw’r arian y byddwch chi’n ei godi, felly gallwch ddefnyddio eich rhoddion fel y dymunwch

DIDDORDEB MEWN CYMRYD RHAN?

I fanteisio i’r eithaf ar y syniad Nadoligaidd hwn o godi arian, cofrestrwch eich mudiad gwirfoddol, elusen, menter gymdeithasol neu Gwmni Buddiannau Cymunedol ar *wefan gyllido easyfundraising.

Neu os hoffech siarad â rhywun, cysylltwch â becky@easyfundraising.org.uk a fydd yn fwy na bodlon eich helpu.

*Saesneg yn unig

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 26/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gwobr i bartner presgripsiynu cymdeithasol CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 15/11/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Gyrru cynhwysiant ac amrywiaeth mewn chwaraeon – ein taith o gwmpas gogledd Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy