Pan wnaeth cau ffatri foduron ym Merthyr Tudful arwain at ddiswyddo staff, gwnaeth y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol helpu Ceri a Jonathan i ddod o hyd i waith a chyfleoedd newydd gydag MTIB.
Pan gaeodd ffatri foduron Kasai yn Ne Cymru, cafodd oddeutu 180 o bobl eu gwneud yn ddi-waith. Gwnaeth cyllid yr UE drwy’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol, a reolir gan CGGC a’i chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, helpu rhai o’r staff blaenorol i ddychwelyd i fyd gwaith.
DIWEDDGLO YN CYFLWYNO DECHREUAD NEWYDD
Bu Ceri yn gweithio yn ffatri Kasai ym Merthyr Tudful am 22 mlynedd yn helpu i greu rhannau mewnol ar gyfer gwneuthurwyr ceir fel Nissan, Jaguar Land Rover a Honda. ‘Roedd hi’n ergyd drom iawn’ meddai am y cau, ‘rydych chi’n meddwl eich bod chi’n mynd i orffen eich bywyd gwaith yno, ond nid felly y bu.’
Cafodd Jonathon ei hun mewn sefyllfa debyg, ar ôl bod yn y ffatri am 15 mlynedd. ‘Roeddwn i wedi gwneud llawer o ffrindiau yno a bu’n rhaid i fi adael pawb. Ond wedyn roedd hi’n rhyddhad i gael lle yma, achos rwy’n credu bod methu â gweithio yn effeithio ar eich iechyd meddwl. Efallai ei fod yn rhoi cyfle i chi fynd â’r ci am dro, neu fynd allan ar y beic, ond dyw’r rheini ddim yn talu’r biliau.’
Yn ffodus iddyn nhw, roedd prosiect Cynhwysiant Gweithredol MTIB, Mantais, yno i fanteisio ar eu sgiliau a nawr maen nhw’n gweithio’n galed yn y ffatri, yn defnyddio’u blynyddoedd o arbenigedd mecanyddol i weithio’r peiriannau a helpodd i greu dodrefn swyddfa sydd wedi chwilio’u ffordd i swyddfa newydd CGGC ei hun yng Nghaerdydd.
‘Rydyn ni wedi bod yn cydweithio â’r Weinyddiaeth Ddodrefn’, meddai Richard Welfoot, Prif Swyddog Gweithredol MTIB ‘i gyflwyno datrysiadau cynaliadwy â budd cymdeithasol. Mae cyllid yr UE wedi bod yn dyngedfennol i ni. Drwy wneud hyn rydyn ni’n gobeithio rhoi rhywbeth yn ôl, ac i weithio gyda’r sector, gan ddangos bod pobl â chyflyrau iechyd, anableddau ac anfanteision yn gallu dychwelyd i waith.’
GWEITHIO GYDA’R SECTOR
Pan symudodd CGGC o’n swyddfa yn Sgwâr Mount Stuart i adeilad newydd yng Nghaerdydd yn Un Rhodfa’r Gamlas, achubwyd ar y cyfle i weithio gyda’r sector i ddarparu dodrefn a ffitiadau mawr eu hangen ar gyfer ein lle newydd.
Mae symud ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi busnes yn helpu MTIB i gynhyrchu incwm, ac yn ei dro yn eu helpu i gynnal cyfleoedd cyflogaeth a allai fod wedi’u darparu i ddechrau gan gyllid y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol (AIF). Ac i staff MTIB, mae buddion hyn yn mynd y tu hwnt i gyflog yn unig.
‘Gallwch chi weld fod pobl yn magu hyder o un dydd i’r llall’, eglurodd Richard, ‘rydyn ni’n mynd i wneud mwy na’u cynorthwyo nhw yn y gwaith yn unig, rydyn ni’n mynd i’w cynorthwyo â rhwystrau y gallent fod yn eu hwynebu y tu allan i waith. Trafnidiaeth, problemau gofal plant, mae gallu gweithio gyda nhw yn helpu i roi moeseg waith iddyn nhw eto.’
‘Y peth pwysicaf yw rhoi’r hyder i bobl a’u helpu gyda phroblemau iechyd meddwl. Rydyn ni’n rhoi llawer o fentora a chwnsela iddyn nhw ac yn rhoi’r cyfle i bobl ddangos eu bod yn gallu cyflawni.’
ETIFEDDIAETH CYLLID YR UE
Nawr bod y prosiectau olaf a gyllidwyd gan yr UE yn dod i ben a ninnau’n pontio i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rydyn ni’n gofyn am eich help i ledaenu’r neges am y gwaith hanfodol y mae cyllid yr UE wedi eich helpu i’w gyflawni.