Ar ôl symud o astudiaethau Safon Uwch i gyfnod clo, helpodd y Bartneriaeth Awyr Agored i Gwion lywio byd gwaith a oedd ar safiad stond.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored, trwy’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a reolir gan CGGC ac a gefnogwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, yn helpu pobl i ddechrau ar daith tuag at gyflogaeth trwy weithgareddau awyr agored.
I Gwion, ni allai hyn fod wedi dod ar adeg well.
CAMU ALLAN O’R CYFNOD CLO
‘Cefais fy hun mewn sefyllfa o ddiweithdra ar ôl i mi orffen fy astudiaethau Safon Uwch yn ystod cyfnod clo cyntaf pandemig Covid yn 2020 ac nid oedd siawns go iawn o waith ar y gorwel felly roedd fy lefelau hunan-hyder yn isel.’
Wrth i niferoedd di-rif o weithleoedd ar draws y wlad gau oherwydd y cyfnod clo, roedd cyfleoedd am waith yn brin, yn enwedig mewn lleoedd dan do, ond dyna sut y camodd y Bartneriaeth Awyr Agored i’r adwy.
Y nod yw i gyfranogwyr wella eu hyder, eu hiechyd, a’u lles wrth, ar yr un pryd, ennill sgiliau hanfodol a chymwysterau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanyn nhw. Y cred yw bod ffordd o fyw egnïol yn gwella cymhelliant a chyfleoedd cyflogaeth ac, ar adeg pan fo cyswllt dan do yn gyfyngedig, gall hyn fod yn amhrisiadwy.
CYMORTH I GYRRAEDD UCHDERAU NEWYDD
‘Roedd y cymorth a dderbyniais i yn anhygoel’, meddai Gwion, ‘Cafodd popeth ei drefnu ar fy nghyfer i ac roedd yr holl gyfarpar a’r cit yr oedd ei angen arnaf yno’n barod. Yr unig beth yr oedd angen i mi ei wneud oedd troi i fyny!
‘Derbynion ni gyngor ac arweiniad arbenigol ar ddiogelwch y mynyddoedd, dysgon ni sgiliau ymarferol iawn megis sut i ddarllen cwmpawd, a chawson ni lawer o gyfleoedd i drafod amrywiaeth o opsiynau gwaith.’
Yn amlwg, mae cael pobl allan yn yr awyr iach yn cael effaith gadarnhaol ar les i lawer o bobl ond rhan allweddol o brosiect Cronfa Cynhwysiant Gweithredol y Bartneriaeth Agored yw hefyd gwneud cyfranogwyr yn fwy cyflogadwy, lle y maent yn llwyddo, fel y profodd Gwion.
‘Mae’r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol anferth arnaf. Yn fuan ar ôl gorffen y prosiect, llwyddais i ennill swydd gyda chontractwr lloriau lleol trwy gynllun Kickstart.’
Nid y canlyniad cyflogaeth cyflym oedd yr unig fudd i Gwion – hefyd helpodd e i wneud penderfyniadau go iawn am ei ddyfodol.
YMLAEN I’R ANTUR NESAF
‘Mae’r profiad wedi gwneud i mi feddwl yr hoffwn i ddatblygu gyrfa yn y sector gweithgareddau awyr agored ac rwyf wedi derbyn cynnig i ddechrau ym Mhrifysgol Bangor gan astudio ar gwrs gradd Gwyddor Chwaraeon Antur sy’n dechrau ym mis Medi.’
‘Mae’r prosiect wedi rhoi llawer o hyder i mi, nid yn unig o ran fy sgiliau i lywio ac i dreulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored, ond hefyd yn fy mywyd bob dydd. Mae arna i ddyled fawr i’r prosiect.’
‘Nid yn unig roedd y cwrs yn hwyl a dysgais lawer, ond mae’r profiadau fy mod wedi’u mwynhau wedi fy helpu i benderfynu ar ba gyfeiriad yr hoffwn fynd iddo yn fy ngyrfa.’
MWY AM GYNHWYSIANT GWEITHREDOL
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn rhoi grantiau ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy’n helpu pobl ddifreintiedig yn ôl i mewn i gyflogaeth.
Mae lefelau diweithdra yng Nghymru yn cynyddu ond mae prosiectau a ariennir gan Gronfa Cynhwysiant Gweithredol CGGC yn ymladd yn ôl.
Dysgwch fwy am y Gronfa ar y wefan.