CGGC yw’r nawfed gyllidwr Covid-19 fwyaf yn y DU

CGGC yw’r nawfed gyllidwr Covid-19 fwyaf yn y DU

Cyhoeddwyd : 12/02/21 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Yn ôl data a gyhoeddwyd gan lunwyr grantiau’r DU, mae CGGC ar rif naw ar restr o’r cyllidwyr Covid-19 sydd wedi dosbarthu’r nifer uchaf o grantiau.

Ymddengys mai CGGC yw’r nawfed cyllidwr Covid-19 fwyaf yn y DU, ond rydyn ni’n annog mwy o fudiadau i ymgeisio oherwydd pryderon ynghylch argaeledd cyllid o’r fath yn y dyfodol.

Gwnaeth CGGC gofrestru’n ddiweddar gyda 360Giving (Saesneg yn unig) er mwyn bod yn fwy tryloyw ynghylch y cyllid rydyn ni’n ei ddosbarthu. Elusen yw 360Giving sy’n helpu mudiadau i gyhoeddi data am grantiau mewn modd agored. Yn ei dro, caiff y data ei ddefnyddio i wella rhoi elusennol ledled y DU.

Yn ôl y data diweddaraf ar Draciwr Grantiau Covid-19 360Giving, CGGC yw’r nawfed gyllidwr Covid-19 fwyaf o ran nifer y grantiau a ddosbarthwyd, gyda 461 o grantiau sy’n ymwneud â Covid wedi’u dosbarthu ganddyn nhw hyd yma. Yn ymuno â CGGC, mae cyllidwyr mawr y DU fel Sport England (sydd ar frig y rhestr), y Loteri Genedlaethol a Phlant mewn Angen y BBC.

Mae’r rhestr yn cynnwys oddeutu 106 o gyllidwyr o bob cwr o’r DU, gyda chyfanswm o £471 miliwn wedi’i ddyfarnu ers Mawrth 2020 ar draws mwy na 27,000 o grantiau.

‘GALLEM FOD YN AGOSAU AT YMYL DIBYN CYLLIDO’

Er bod CGGC yn falch o fod wedi gwneud ei ran mewn cael cyllid mawr ei angen allan i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, mae pryderon ynghylch y dyfodol.

‘Rydyn ni’n falch o weld ein henw ymhlith rhai o gyllidwyr mawr y DU,’ meddai Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau CGGC. ‘Ond mae gennym ni bryderon fel sector y gallem fod yn agosáu at ymyl dibyn cyllido.

‘Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill sydd wedi cyllido ein grantiau, gan alluogi mudiadau gwirfoddol i helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.

‘Fodd bynnag, rydyn ni’n poeni ynghylch ansicrwydd y cyllid yn y misoedd i ddod, felly bydden ni’n annog mudiadau’n gryf i fanteisio ar gyllid Covid-19 drwy CGGC tra ei fod ar gael.’

PA GYLLID COVID SYDD AR GAEL GAN CGGC AR HYN O BRYD?

Mae CGGC yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd ar gyfer Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF), cynllun grant ar gyfer mudiadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth hanfodol yn ystod argyfwng COVID-19.

Mae grantiau rhwng £10,000 a £100,000 ar gael i elusennau, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) a mudiadau nid er elw (a gyfansoddwyd) o bob math sy’n gweithio ar lefel gymunedol hyd at lefel genedlaethol yng Nghymru.

Ewch i dudalen VSRF am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal â hyn, mae cylch newydd o Gynllun Grant Cymru ac Affrica ar agor nawr, sy’n canolbwyntio ar brosiectau sy’n helpu partneriaethau i addasu ar gyfer pandemig COVID-19.

Gellir gweld data grantiau agored CGGC ar ein tudalen effaith.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy