Rydyn ni’n ysu am Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn Rhondda Cynon Taf! Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl gan ein hwb sector gwirfoddol ar y Maes.
Mae CGGC yn gyffrous iawn i fod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf rhwng 3-10 Awst 2024. Eleni, ochr yn ochr â’n partner lleol Interlink, rydyn ni’n cydlynu’r hwb sector gwirfoddol a chyda bron 50 o fudiadau yn ymuno â’r hwb yn ystod yr wythnos, bydd digonedd o bethau ymlaen a rhywbeth at ddant pawb.
Os ydych chi’n mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol, dewch draw i ddweud helo!
BETH SY’N DIGWYDD YN YSTOD YR WYTHNOS?
Dydd Iau 8 Awst 2024 – Lansio Gwobrau Elusennau Cymru
Ddydd Iau, byddwn ni’n agor Gwobrau Elusennau Cymru 2024 yn swyddogol ar gyfer enwebiadau.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru, a drefnir gan CGGC, yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad gwych y mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau dielw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Dewch draw i gael gwybod am y gwobrau a sut i enwebu rhywun.
Dydd Gwener 9 Awst 2024 – Cwrdd â’r Comisiwn Elusennau
Ddydd Gwener, bydd y Comisiwn Elusennau yn yr hwb sector gwirfoddol.
Byddai Aelod Bwrdd y Comisiwn Elusennau, Pippa Britton – ynghyd â Phrif Weithredwr newydd CGGC, Lindsay Cordery-Bruce – wrth eu boddau pe bai pobl yn dod draw i ddweud helo ac yn sgwrsio â nhw am sut gallwn ni, fel sector, annog pobl i fod yn ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr.
HEFYD YN YR HWB SECTOR GWIRFODDOL
Bydd cymysgedd o fudiadau cenedlaethol a rhai lleol llai o faint yn yr hwb, a phob un ohonyn nhw’n ceisio arddangos gwaith ffantastig elusennau a grwpiau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dod draw i ddweud helo os ydych chi ar y Maes. Gallwch chi gael gliter yr ŵyl ar eich wyneb, rhoi cynnig ar grochenwaith sylfaenol neu dim ond sgwrsio â’n mudiadau gwirfoddol ysbrydoledig.
Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno!