Staff yn cael hwyl ar stondin WCVA yn Eisteddfod Llanrwst 2019

CGGC yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

Cyhoeddwyd : 29/07/22 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Rydyn ni’n gyffrous ofnadwy i fod yn ôl yn yr Eisteddfod Genedlaethol (30 Gorffennaf – 6 Awst) ac yn rhannu stondin gyda’n partner, CAVO.

Rydyn ni ar y Maes drwy’r wythnos i hyrwyddo gwaith gwych elusennau a mudiadau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru. Rydyn ni’n falch iawn y bydd nifer o’n haelod-fudiadau yn ymuno â ni hefyd i gynnal gweithgareddau amrywiol drwy gydol yr wythnos.

Ar 4 Awst am 2pm byddwn ni’n lansio Gwobrau Elusennau Cymru 2022. Felly ymunwch â ni am gacen a ‘bybli’ (ar stondin CAVO a CGGC rhif 622-623) i ddathlu’r ffaith bod y gwobrau ffantastig hyn yn ôl, a chanfod sut gallwch chi enwebu eich hoff elusen neu wirfoddolwr fel ei fod yn cael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.

Os ydych chi ar y Maes o gwbl yn ystod yr wythnos, cofiwch alw draw i ddweud helo – bydden ni’n dwli eich gweld!

‘Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb…’

Ddwy flynedd yn hwyrach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol oherwydd y pandemig COVID-19, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn cael ei chynnal tu allan i bentref Tregaron yng Ngheredigion.

Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022 ac yn cyflwyno rhaglen amrywiol o fwy na 1000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau – gan gynnwys y Gymanfa Ganu draddodiadol a Gig y Pafiliwn gydag amrywiaeth o fandiau a chantorion Cymraeg cyfoes.

Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Betsan Moses wedi diolch i’r gwirfoddolwyr sydd wedi helpu gyda’r digwyddiad hyd yn hyn.

‘Rydyn ni’n diolch o galon i’n holl wirfoddolwyr yn ardal Ceredigion sydd wedi bod yn gweithio gyda ni am gyfnod mor hir i dynnu popeth at ei gilydd.

‘Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bawb, ac mae cefnogaeth a chyfeillgarwch ein pwyllgorau wedi bod yn gymaint o hwb a chymorth i ni wrth gynllunio a gwireddu ein rhaglenni ar gyfer eleni.’

Am y tro cyntaf, bydd ymwelwyr yn gallu argraffu tocynnau Maes o gartref neu defnyddio’u ffôn clyfar i gael mynediad i’r Maes. Mae hyn yn rhan o strategaeth gynaliadwyedd sydd am weld y sefydliad yn arloesi ym maes arferion digwyddiadau cynaliadwy yma yng Nghymru, gan sicrhau allyriadau sero net a dim gwastraff erbyn 2025.

Mae manylion am ddigwyddiadau dyddiol o amgylch y Maes ar gael ar wefan yr Eisteddfod, ynghyd â rhagor o wybodaeth am gyngherddau nôs, a gallwch brynu tocynnau Maes dyddiol neu wythnosol yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/08/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn ôl am 2024!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/06/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau |

Edrychwch ar hyfforddiant diogelu gydag CGGC

Darllen mwy