Mae CGGC yn falch o ymuno â’r llinynnau ymgysylltu a fydd ynghlwm yn natblygiad y fersiwn nesaf o’r Datganiad o’r Arfer a Argymhellir i Elusennau (SORP).
Mae’r SORP Elusennau yn darparu arweiniad i’r sawl fydd yn paratoi cyfrifon elusennau, gan gynnwys ymddiriedolwyr, cyfrifwyr ac arholwyr annibynnol. Mae’r SORP yn darparu argymhellion a gofynion sy’n amlinellu sut i baratoi cyfrifon ‘cywir a theg’ yn unol â safonau cadw cyfrifon y DU. Caiff y SORP ei ddiweddaru o dro i dro i adlewyrchu newidiadau i safonau cadw cyfrifon a/ neu gyfraith elusennol.
Bwriad y broses ymgysylltu newydd yw denu safbwyntiau a syniadau ar wella’r SORP er mwyn bwydo gwybodaeth i’r fersiwn newydd.
Mae CGGC wedi dewis ymuno â’r llinyn ymgysylltu ar gyfer elusennau llai. Er nad yw CGGC ei hun yn elusen fach, ein rôl yw cynrychioli’r sector yng Nghymru, ac mae cyfran helaeth o’r sector yn elusennau bach.
Ffocws y llinyn hwn fydd mynegi’r heriau sy’n wynebu elusennau bach, cynnig awgrymiadau o ran symleiddio ac adnabod yr elfennau allweddol angennrheidiol ar gyfer adrodd stori eu helusen.
Wrth i’r broses fynd rhagddi, edrychwn ymlaen at ymgysylltu ag elusennau bach yng Nghymru a Rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru o Gynghorau Gwirfoddol Sirol er mwyn clywed eich safbwyntiau ynglŷn â sut gellid gwella’r SORP.
Mae’r SORP yn darparu fframwaith ar gyfer cadw cyfrifon ac adrodd, wedi’i gynllunio i:
- gynorthwyo ymddiriedolwyr elusennau i gwrdd â’u gofyniad cyfreithiol ar gyfer eu cyfrifon er mwyn rhoi darlun cywir a theg
- annog cysondeb mewn safonau cadw cyfrifon elusennau
- cynnig argymhellion ar gyfer adrodd blynyddol elusennol
Rhaid i bob elusen ddefnyddio’r SORP er mwyn paratoi eu cyfrifon oni bai bod yr ymddiriedolwyr wedi dewis paratoi derbynebau a chyfrifon taliadau a bod eu helusen yn elusen nad yw’n gwmni oedd ag incwm o £250,000 neu lai yn ystod y cyfnod adrodd.
Oes gennych unrhyw safbwyntiau o ran sut gellid gwella’r SORP? Cysylltwch â governance@wcva.cymru.
Canllawiau cysylltiedig: Paratoi cyfrifon elusennau (Saesneg yn unig)