Post gyda arwydd yn dweud

CGGC yn symud tŷ

Cyhoeddwyd : 11/11/19 | Categorïau: Newyddion |

CGGC yn symud tŷ
2 Medi 2019
Rydym yn symud ein swyddfeydd ac eisiau defnyddio’r cyfle i greu man gweithio wedi ei rannu i’r sector wirfoddol yng Nghymru.

Yn CGGC rydym wedi bod yn meddwl yn ddwys ac am amser am ein rôl a beth fedrwn ni ei wneud i sicrhau bod mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn barod am yr heriau sy’n ei wynebu. Dyna pam ein bod ni wedi adnewyddu ein pwrpas ac wedi rho ffocws bendant ar gyfer y dyfodol – i alluogi mudiadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.

Gallwch ddarllen mwy am ein pwrpas yma.

Rydym wed bod yn eglur ein bod eisiau newid y ffordd yr ydym yn gweithio ac felly rydym angen swyddfeydd all ein harfogi i wneud hynny.

Cartref newydd i’r sector wirfoddol yng Nghymru?

Nôl ym mis Ionawr gofynom eich barn am ein gofod swyddfa cydweithredol ar gyfer y sector. Cawsom adborth gwych gan aelodau a phartneriaid a diolch o galon i bawb a wnaeth gymryd rhan.

Mae gofod3, ardal Cymru ar gyfer y trydydd sector, wedi gorchfygu wrth ddod â phobl y sector gyda’i gilydd. Mae ein digwyddiad blynyddol yn leoliad i ni gyd fedru dysgu oddi wrth ein gilydd, i ysgogi ac ysbyrdoli’r naill a’r llal.

Credwn fod hyn yn ddull gydweithredol ac agored fod yn fwy na digwyddiad unwaith y flwyddyn. Yn seiliedig ar drafodaethau yr ydym wedi eu cael gyda chi, rydym nawr yn dechrau ar y broses o weithio gyda’r sector i ddatblygu man yng Nghaerydd sy’n fwy nac adeilad.

Rydym eisiau dod â phobl a mudiadau at ei gilydd ar hyd a lled y sector, yn fan ar gyfer pobl i weithio ond hefyd yn ganolbwynt ar gyfer y sector i drafod, cyfarfod, diweddaru, cydweithio ac arloesi.

Ymunwch â’r hwb newydd ar gyfer y sector wirfoddol

Rydym eisiau gweithio gyda’r sector wirfoddo yng Nghymru i ddatblygu’r man hwn a rennir. Byddwn yn rhannu fwy o wybodaeth am ein cynlluniau dros yr wythnosau i ddod. Os oes gennych ddiddordeb i gymryd rhan neu ddod o hyd i fwy o wybodaeth cysylltwch â Matthew Brown ar mbrown@wc001.ddtestsite.co.uk.

Swyddfeydd CGGC yn Rhyl ac Aberystwyth

Fel y corff ar gyfer mudiadau gwirfoddol yng Nghymru rydym yn cadw’n gwreiddiau’n ddwfn ar hyd a lled y wlad. Mae ein holl swyddfeydd presennol yn cael eu rhoi ar y farchnad er mwyn gallu dod o hyd i ofod swyddfa fydd yn helpu’r ffordd yr ydym yn gweithio. Yn ogystal â hwb yng Nghaerdydd byddwn hefyd yn chwilio am ofod swyddfa yn Aberystwyth a Rhyl.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy