CGGC oedd y cyntaf ymysg nifer o randdeiliaid y trydydd sector i roi tystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar effaith Covid-19 ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Wedi’i gadeirio gan John Griffiths AS, roedd y panel yn cynnwys Ruth Marks, Prif Weithredwr CGGC; Fiona Liddell o Helplu Cymru a Noreen Blanluet o Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru.
Pan ofynnwyd iddi ynglŷn ag effaith gyffredinol Covid-19 ar y sector, nododd Ruth Marks galedi cynyddol mudiadau’r sector, ynghyd â cholledion ariannol sylweddol. Mae hyn, yn ogystal ag ansicrwydd ychwanegol a’r galw cynyddol am wasanaethau, wedi arwain at ddirywiad yn llesiant staff y sector. Nododd Fiona Liddell fod y sector yn ceisio paratoi at ragor o gyni, tra gofynnodd Ruth i ystyriaeth gael ei roi er mwyn caniatáu mudiadau i gario cyllid ar draws blynyddoedd ariannol. Nododd yr angen am gydbwysedd rhwng gwneud penderfyniadau o’r brig i lawr ac adferiad o’r pandemig wedi’i arwain gan y gymuned. Dywedodd Fiona fod yr isadeiledd gwirfoddoli ar hyn o bryd yn llai abl i sianelu adnoddau mor gyflym ag yr hoffai, tra nad oedd protocolau’r GIG, o fewn gwasanaethau gofal sylfaenol, wedi’u cynllunio ar gyfer gweinyddu gwirfoddolwyr yn gyflym.
Gofynnwyd i’r panel ynglŷn ag effaith ffyrdd newydd o weithio. Nododd Ruth y newid yn y cymhelliant tuag at weithio digidol, ond ychwanegodd nad yw un ateb yn addas i bawb – yn wir, nid yw’r cyfrwng digidol yn addas i rai o gwbl. Dywedodd Noreen fod angen i ni fod yn greadigol gyda phob sianel gyfathrebu. Gwnaeth Ruth sylwad ynglŷn â’r nifer o elusennau ar draws y DU sy’n ailstrwythuro, gan arwain at leihad mewn cyflogaeth neu weithgareddau yng Nghymru yn aml – gan leihau llais y sector a’i allu i weithio gyda chymunedau. Cytunodd Delyth Jewell AS fod hyn yn peri pryder.
I gloi, ar fater cydgynhyrchu, dywedodd Noreen fod y rheiny oedd yn gwneud hynny cyn y pandemig, ar y cyfan, wedi parhau i wneud yn dda, tra bod y rhai nad oeddent yn gwneud yn annhebygol o fod yn gwneud hynny’n effeithiol nawr. Ychwanegodd ei bod yn ymddangos fel pe bai’r pandemig wedi cael ei ddefnyddio fel esgus mewn rhai achosion er mwyn canoli pŵer.
Gwnaethon ni hefyd gyflwyno ychydig o dystiolaeth ysgrifenedig i’r pwyllgor.
Dywedodd Ruth Marks yn ddiweddarach: ‘Rydyn ni’n diolch i’r Pwyllgor am ein gwahodd ni i roi tystiolaeth ynglŷn ag effaith y pandemig ar wasanaethau’r sector ar draws Cymru. Mae’r sector a gwirfoddolwyr yn perfformio’n eithriadol o dda o ystyried yr amgylchiadau ansicr; fodd bynnag, mae’n hanfodol eu bod yn derbyn yr adnoddau a’r gefnogaeth angenrheidiol er mwyn parhau i wneud hynny. Bydd CGGC yn parhau i ymgysylltu â gwneuthurwyr polisi a phartneriaid y sector er mwyn sicrhau bod llais y sector gwirfoddol yn cael ei glywed ar bob lefel o lywodraeth yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn.’