Canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, sy'n dal y brifwyl gyllideb goch y tu allan i Downing Street

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Cyhoeddwyd : 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

Mae CGGC yn annog Llywodraeth Cymru i liniaru effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar gyflogwyr y sector gwirfoddol.

YMATEB I’R GYLLIDEB

Yn dilyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU yn 2024 yr wythnos diwethaf, mae’n siŵr y byddwch yn ymwybodol o’r cynnydd dros gyfraniadau Yswiriant Gwladol mae cyflogwyr yn wynebu.

Rydym yn ymwybodol ac yn rhannu pryderon y sector am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar gyllid mudiadau gwirfoddol, felly byddwn yn anfon y llythyr isod ar ran Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) a Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford.

YCHWANEGU EICH LLEISIAU

Byddwn yn anfon hwn ar ran y sector felly os hoffech ddangos eich cefnogaeth i’r alwad hon, gallwch ychwanegu eich enw drwy e-bostio policy@wcva.cymru.

Mae’r llythyr llawn ar gael isod:

Annwyl Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg,

Anfonwyd at: Correspondence.Mark.Drakeford@gov.wales

Dydd Gwener 8 Tachwedd

Pwnc: Cais i liniaru effaith y cynnydd yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr ar y sector gwirfoddol

Ysgrifennwn atoch ar ran Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC), Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW) i leisio pryderon difrifol ynghylch y baich ariannol cynyddol y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr, a gyflwynwyd yng nghyllideb 2024 Llywodraeth y DU, yn ei osod ar y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn gweithredu o dan gyfyngiadau ariannol tynn ac yn chwarae rhan hanfodol mewn darparu gwasanaethau hanfodol ochr yn ochr â’r sector cyhoeddus, ond dim ond cyflogwyr y sector cyhoeddus sy’n mynd i gael eu had-dalu am y costau cynyddol hyn.

Mae’r cynnydd hwn mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gost newydd sylweddol na fydd llawer o fudiadau yn gallu ei thalu heb iddi gael effaith gyfatebol ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Felly, pwyswn ar Lywodraeth Cymru i:

  • Ystyried yr effeithiau hyn yn ofalus wrth lunio ei chyllideb ddrafft
  • Codi grantiau a chontractau yn unol â’r pwysau hyn a phwysau eraill sy’n seiliedig ar chwyddiant.

Mae’r newid hwn yn fwy na rhwystr ariannol; mae’n her sylfaenol i sector sydd eisoes o dan bwysau aruthrol yn sgil y cynnydd cyflym yn y galw am wasanaethau a’r cynnydd mewn costau byw a yrrir gan chwyddiant a chyllid cyfyngedig. Nid ffigurau’n unig mo’r rhain – maen nhw’n wasanaethau tyngedfennol a allai wynebu toriadau os na fydd y cyllid yn addasu i fodloni’r costau annisgwyl hyn.

Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru fel partneriaid i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy